Newyddion S4C

Y cerddor David R. Edwards wedi marw'n 56 oed

Newyddion S4C 22/06/2021

Y cerddor David R. Edwards wedi marw'n 56 oed

Mae label recordiau Ankst wedi cyhoeddi fod David R. Edwards, cerddor, bardd a phrif leisydd y band dylanwadol Datblygu wedi marw'n 56 oed.

Drwy ei eiriau miniog a threiddgar am y Gymru gyfoes, cariad, a'i allu i edrych yn wrthrychol ar gymdeithas mewn caneuon poblogaidd fel 'Cân i Gymru' a 'Y Teimlad', llwyddodd i adael ei stamp ar genhedlaeth o gerddorion. 

Daeth ei ganeuon i sylw'r DJ John Peel yn ystod blynyddoedd cynnar Datblygu ar ddechrau'r 80au, a thyfu wnaeth poblogrwydd y band yn ystod cyfnod ffyniauns y Sin Roc Gymraeg ar ddechrau'r 90au.

Ymysg albyms mwyaf dylanwadol Datblygu oedd Wyau, Pyst a Libertino.

Yn frodor o Aberteifi, roedd y dref honno'n agos at ei galon drwy gydol ei fywyd.

Bu'n dioddef cyfnodau o anhwylder iechyd meddwl ac wedi byw gydag epilepsi a diabetes.

Mewn datganiad, dywedodd label recordiau Ankst: "Mi oedd David yn unigolyn cariadus, ffyddlon, creadigol, caredig, doniol a doeth ac mi fydd colled enfawr ar ei ôl. Heb David ni fuasai Recordiau Ankst wedi bodoli a heb gyfeillgarwch, talent a chariad David dros y degawdau mi fasa bywyd yma yng Nghymru wedi bod yn llawer tlotach a di-wefr.

"Mi fydd y llais a'r geiriau yn parhau i ysbrydoli a rhyfeddu. Heb os mae ein dyled heddiw i David yn enfawr am rannu ei fywyd a'i ddawn gyda ni. Mae ein cydymdeimlad yn mynd allan i deulu a ffrindiau David yn y cyfnod anodd, torcalonnus yma."

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Patricia Morgan, cyd-aelod o Datblygu: "Mae'n boen enfawr i fi i feddwl nad yw David gyda ni mwyach. Roedd yn un o'r ffrindiau gorau y gallech chi erioed eu cael. Personoliaeth enfawr ac hael; arth o ddyn. Cyffyrddodd ei ysgrifennu â phobl, i rhoi swcwr, cariad, dicter a hiwmor."

Ymysg y llu o deyrngedau daeth neges gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford nos Wener.

Dywedodd fod y newyddion yn "hynod o drist".

"Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu y diwylliant rydym yn ei nabod a’i fwynhau heddiw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.