Newyddion S4C

Dedfryd wedi'i gohirio i ddyn am gadw gwastraff anghyfreithlon ar fferm yn Sir Gâr

Fferm gwastraff

Mae dyn o Lanelli wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar ar ôl iddo gyfaddef iddo redeg ymgyrch wastraff anghyfreithlon ar dir fferm ar rent ger Bynea, Sir Gâr.

Dedfrydwyd Stephen Billings o Fôr Awel, Llanelli, i 15 mis o garchar, wedi'i ostwng i 10 mis i gydnabod ei ble euog, yn Llys y Goron Abertawe. 

Cafodd y ddedfryd ei gohirio am 12 mis.

Cyfaddefodd Mr Billings ei fod, rhwng 2019 a 2021, wedi symud maint sylweddol o wastraff yn cynnwys mwy nag 1,000 tunnell o blastig, oergelloedd a gwastraff domestig ac adeiladu cyffredinol yn ogystal â mwy nag 1,000 o deiars i dir yr oedd yn ei rentu ar Fferm Ffos Fach.

Cyfaddefodd hefyd iddo gadw, trin a gwaredu ar wastraff rheoledig mewn modd a fyddai'n debygol o lygru'r amgylchedd neu achosi niwed i iechyd pobl.

Llosgi

Roedd y gwastraff yn cael ei losgi’n rheolaidd ar y safle, ac roedd tanau i’w gweld yn rheolaidd mor bell â thair milltir i ffwrdd.

Cafodd y tanau hyn effaith sylweddol ar ansawdd yr aer i gartrefi a busnesau cyfagos lle roedd arogl llosgi cemegau a phlastigau yn achosi i bobl deimlo'n sâl, a hefyd yn effeithio'n ddifrifol ar yr amgylchedd lleol.

Ymwelodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru â fferm Ffos Fach sawl gwaith gan roi cyngor ac arweiniad i Mr Billings ynghylch sicrhau cydymffurfedd ar y safle, ond er gwaethaf yr ymweliadau hyn parhaodd â’i weithgareddau anghyfreithlon tan 2021 pan adawodd y safle, wedi’i orchuddio â gwastraff.

Cyflwynwyd Hysbysiad A59 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i Mr Billings ym mis Ebrill 2023 i symud y gwastraff o'r safle erbyn 31 Mai 2023.  Ni symudodd Mr Billings unrhyw wastraff o’r safle ac, o ganlyniad, cafodd Mr Billings ei erlyn gan CNC am bob trosedd yr oedd wedi’i chyflawni ar y safle.

'Risg sylweddol'

Roedd gweithgareddau Mr Billings yn peri "risg sylweddol" i Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cilfach Tywyn ac Aber Llwchwr sydd gerllaw Fferm Ffos Fach meddai CNC.

Cafodd effaith gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon Mr Billing effaith sylweddol hefyd ar weithredwyr gwastraff trwyddedig dilys eraill yn yr ardal.

Drwy weithredu heb unrhyw hawlenni neu drwyddedau amcangyfrifir bod Mr Billings wedi osgoi costau o £83,000 o leiaf wrth redeg ei waith gwastraff anghyfreithlon.

Yn ogystal â'i ddedfryd ohiriedig, gorchmynnwyd Mr Billings hefyd i ymgymryd â chyfnod adsefydlu am 28 diwrnod a gwneud 150 awr o waith di-dâl. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu £500 o gostau am £50 y mis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.