Newyddion S4C

Iwerddon yn pleidleisio dros ddiddymu iaith ‘rywiaethol’ o’i chyfansoddiad

07/03/2024
Refferendwm

Bydd Iwerddon yn cynnal refferendwm ddydd Gwener i ddiddymu cyfeiriadau at “ddyletswyddau menywod yn y cartref” o’i chyfansoddiad.

Ar ôl blynyddoedd o bwysau, fe gytunodd Llywodraeth Iwerddon i gynnal dau refferendwm, gyda’r llall yn ceisio ehangu’r diffiniad cyfansoddiadol o deulu o fod yn seiliedig ar briodas i “berthnasoedd wydn” yn lle hynny. 

Mae Erthygl 41.2 o gyfansoddiad Iwerddon, sy’n dyddio'n ôl i 1937, yn dweud: “Mae’r wladwriaeth yn cydnabod bod menyw, trwy ei bywyd yn y cartref, yn rhoi cefnogaeth i’r wladwriaeth na fydd modd cyflawni lles cyffredinol hebddi.

“Bydd y wladwriaeth, felly, yn ymdrechu i sicrhau na fydd mamau yn cael eu gorfodi o reidrwydd economaidd i weithio os fyddai hynny’n arwain at gefnu ar eu dyletswyddau yn y cartref.”

Dywedodd Llywodraeth Iwerddon fod yr iaith yma yn “rhywiaethol” ac yn “hen ffasiwn”, ac y dylid ei ddiddymu.

Byddai’n cael ei ddisodli gan y geiriau: “Mae’r wladwriaeth yn cydnabod bod darpariaeth gofal, gan aelodau o deulu i’w gilydd oherwydd y rhwymau sy’n bodoli yn eu plith, yn rhoi cefnogaeth i gymdeithas na fydd modd cyflawni lles cyffredinol hebddi, a bydd yn ymdrechu i gefnogi darpariaeth o’r fath.”

Dywedodd y Taoiseach Leo Varadkar, Prif Weinidog Iwerddon, y byddai pleidleisio yn erbyn y newidiadau yma yn “ail-gadarnhau” iaith rywiaethol ac yn methu â chydnabod gofal teuluol yn y cyfansoddiad. 

Mae Cyngor Cenedlaethol y Merched yn ymgyrchu i bleidleisio o blaid y newid gan “nad oes lle i iaith rywiaethol, ystrydebol yn ein cyfansoddiad” a’i bod yn “cynrychioli cyfnod pan oedd merched yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd”.

Mae llawer o ofalwyr teuluol yn gobeithio y bydd pleidlais o blaid y newid yn gwella cefnogaeth y wladwriaeth, tra bod eraill yn teimlo bod yr iaith “ymdrechol” ddim yn ddigon.

Bydd canlyniad y ddau refferendwm yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn yng Nghastell Dulyn.

Llun: Cate McCurry / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.