Angen gwneud mwy i atal trais gan blismyn yn erbyn merched
Mae angen "gwelliannau ar frys" i atal trais gan heddweision yn erbyn merched, meddai'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae'r comisiwn wedi galw ar Lywodraeth y DU "i roi blaenoriaeth i weithredu er mwyn mynd i'r afael â 'r broblem o drais gan yr heddlu yn erbyn merched."
Yn ogystal, mae wedi cefnogi'r syniad o gymryd cardiau adnabod oddi wrth unrhyw heddweision sydd yn destun ymchwiliad i honiadau o drais yn erbyn merched.
Daw hyn ychydig ddyddiau wedi i bennaeth Heddlu'r Met ddweud bod angen rhoi'r un adnoddau i ddelio â thrais yn erbyn merched a'r hyn sydd ar gael i ymladd terfysgaeth.
Dywedodd Mark Rowley bod yna "gannoedd o filoedd" o ddynion yng ngwledydd Prydain oedd yn fygythiad i ferched, a bod maint y broblem yn golygu bod rhaid ei drin fel mater o ddiogelwch cendlaethol.
Mae Heddlu'r Met wedi eu beirniadu'n hallt am eu polisiau recriwtio. wedi i un swyddog, Wayne Couzens, ei gael yn euog o gipio a llofruddio Sarah Everard yn 2021. Dywedodd adroddiad annibynnol diweddar na dylai Couzens fyth fod wedi cael ei benodi i swydd fel heddwas.
Yn ogystal, daeth i'r amlwg fod aelod arall o'r Met, David Carrick, yn droseddwr rhyw difrifol.
Mae arweinydd yr wrthblaid, Keir Starmer, wedi galw ar y llywodraeth i gyflwyno safonau gorfodol i bob llu yng Nghymru a Lloegr wrth recriwtio swyddogion.
Yn eu hadroddiad, mae'r Comisiwn hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â diogelwch merched sy'n ymfudwyr, a sy'n diodde trais domestig.
"Rydym yn annog llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig i edrych yn ofalus ar ein hadroddiad a gweithredu'r argymhellion, fel y medrwn ni symud tuag at gymdeithas lle mae merched yn teimlo'n ddiogel wrth fyw eu bywydau," meddai'r Comisiwn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu pryder y Comisiwn am ddiogelwch ymfudwyr.
"Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi bod yn glir iawn am eu huchelgais i ddod â bob math o drais yn erbyn merched i ben - boed hynny'n gamdrin domestig neu trais rhywiol, sy'n cynnwys pob math o ecsploitio rhywiol," meddai'r llefarydd.