Newyddion S4C

Rhys ab Owen AS yn wynebu gwaharddiad o'r Senedd yn dilyn 'ymddygiad amhriodol'

06/03/2024

Rhys ab Owen AS yn wynebu gwaharddiad o'r Senedd yn dilyn 'ymddygiad amhriodol'

Mae'r AS  Rhys ab Owen yn wynebu cyfnod o waharddiad o 42 diwrnod o'r Senedd ar ôl cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes.

Mae'n dilyn ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain i ymddygiad y gwleidydd ar noson allan.

Mae adroddiad y Pwyllgor Safonau'n dweud nad oedd o wedi dangos unrhyw edifeirwch am yr hyn oedd wedi digwydd.

Ond mae Mr ab Owen, sy'n eistedd fel aelod annibynnol wedi iddo gael ei wahardd gan Blaid Cymru,  yn dweud ei fod wedi ymddiheuro i unigolyn wnaeth gwyno.

Mewn datganiad yn ymateb i'w waharddiad, dywedodd Mr ab Owen:

"Dymunaf ymddiheuro i'r rhai gafodd eu heffeithio gan fy ymddygiad ar y noson dan sylw, ymddygiad nad oedd yn cyrraedd y safon y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan aelod o'r Senedd. Ymddiheuraf yn ddiamod am hynny.

"Mae'r modd yr wyf yn herio manylion y gŵyn, neu'r ffordd yr ymchwiliwyd iddi ar ôl hynny, yn fater gwahanol, ac yn un yr wyf yn ystyried y camau nesaf yn ei gylch. Rwy'n parhau'n gwbl ymroddedig i'r Senedd a'm gwaith yno ar ran fy etholwyr.

"Hoffwn ddiolch i fy ngwraig a'm teulu am eu cariad a'u cefnogaeth, wnaeth fy nghynnal yn ystod y cyfnod anodd ac estynedig hwn. Rwyf wedi gwneud newidiadau i'm ffordd o fyw sydd yn fy helpu i fod yn berson ac yn gynrychiolydd gwell.

"Ni fyddaf yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd ac rwy'n gofyn bod fy mhreifatrwydd i a'm teulu a phawb arall sydd yn gysylltiedig, yn cael ei barchu."

Etholwyd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, am y tro cyntaf i'r Senedd yn 2021. 

Cafodd ei wahardd o grŵp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd ym mis Tachwedd 2022, a hynny tra'r oedd yn destun ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad. 

Roedd penderfyniad y blaid yn golygu bod Mr ab Owen wedi eistedd fel aelod annibynnol yn y Senedd tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.