Newyddion S4C

Anfodlonrwydd 'rhyfeddol' ar ddechrau pandemig Covid i gydnabod argyfwng sifil

06/03/2024
covid

Mae swyddog iechyd cyhoeddus blaenllaw wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ei methiant i gydnabod bod y pandemig coronafeirws byd-eang yn argyfwng sifil ar ddechrau'r pandemig.

Dywedodd Dr Quentin Sandifer, a oedd yn gyfarwyddwr meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei fod wedi ei “syfrdanu” bod Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried yr achosion o Covid-19 fel digwyddiad o anhwylder iechyd cyffredinol yn hytrach nag argyfwng mor hwyr â mis Mawrth 2020.

Roedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan ddiwedd mis Ionawr bod coronafeirws, a oedd wedi dod i’r amlwg o ranbarth Wuhan yn Tsieina, yn “argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol”.

'Difrifol'

Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU yng Nghaerdydd ddydd Mercher, gofynnwyd i Dr Sandifer ei farn ar ba mor “ddifrifol” yr oedd Llywodraeth Cymru yn cymryd y bygythiad o ganlyniad i'r haint.

“Rwy’n credu bod Ionawr 31, hyd yn oed ar y pryd, wir yn teimlo fel eiliad arloesol,” meddai Dr Sandifer.

“Prif swyddog meddygol y DU yn sefyll i fyny ac yn dweud bod gennym ni’r ddau achos cyntaf yn y DU tua mis ar ôl i Tsieina ei adrodd gyntaf i Sefydliad Iechyd y Byd.

“Roedd yn teimlo i mi ei fod yn drobwynt yn yr hyn y byddem yn ei alw’n bandemig ac ymddangosiad yr achos hwn.

“Yn bersonol roeddwn i’n dechrau mynd yn bryderus iawn nawr ynglŷn â’r graddau y gallwn i weld – y tu hwnt i’r prif swyddog meddygol – ymateb gan Lywodraeth Cymru.”

Clywodd yr ymchwiliad fod e-bost wedi’i anfon ymlaen at Dr Sandifer gan swyddog arall yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 3 Mawrth 3 yn nodi nad yw’r achos “yn sefyllfa o argyfwng sifil” a’i fod yn cael ei adolygu’n gyson.

Image
Covid

Pan ofynnwyd iddo am ei farn am hyn, atebodd Dr Sandifer: “Roeddwn wedi fy syfrdanu gan hyn.

“Mae’n ddechrau mis Mawrth, ac roedd tîm gwydnwch Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym nad oedden nhw’n meddwl ein bod ni’n agosáu – os nad oedden ni yno’n barod – at argyfwng sifil.

“Mae’n wir bod Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn ddigwyddiad a arweiniwyd gan iechyd ac roedd y brif arweinyddiaeth, fel y gallwn i ei weld, yn dod gan y prif swyddog meddygol.”

Awgrymodd y tyst y dylid cyfeirio cwestiynau am hynny at Lywodraeth Cymru.

Sesiwn friffio

Clywodd yr ymchwiliad fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi sesiwn friffio ar 11 Mawrth yn dadlau’r achos i Lywodraeth Cymru ddatgan digwyddiad o bwys.

Amlinellodd amcangyfrifon y byddai Cymru’n gweld 1.5 miliwn o achosion symptomatig, 200,000 angen gofal ysbyty, amcangyfrif o 18,000 angen awyru mecanyddol a 25,000 o farwolaethau.

Dywedodd y sesiwn friffio hefyd mai “thema gyson o wersi a ddysgwyd” o sefyllfaoedd yn y gorffennol oedd “nad yw digwyddiadau mawr yn cael eu datgan yn ddigon buan”.

“Cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd bandemig ar Fawrth 11,” meddai Dr Sandifer.

“Yn dilyn ein hachos cyntaf ar Chwefror 27 fe ddechreuon ni weld niferoedd yr achosion yn codi ac erbyn Mawrth 11 roedd niferoedd yr achosion hynny’n codi’n esbonyddol.

“Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom yn gwybod bryd hynny fod Cobra wedi trafod y sail ddeddfwriaethol ar gyfer yr ymateb erbyn hynny, ar Fawrth 2 rwy’n meddwl, ac wedi penderfynu peidio â defnyddio deddfwriaeth wrth gefn sifil o blaid deddfwriaeth iechyd cyhoeddus.

“Roeddwn i’n teimlo bod angen i ni osod ein cardiau ar y bwrdd a dweud wrth Lywodraeth Cymru, ‘Dyma sut rydyn ni’n ei weld. Ydych chi’n mynd i ddefnyddio deddfwriaeth frys?’.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.