Newyddion S4C

'Llai o blant yn darllen erbyn hyn' yng Nghymru

06/03/2024

'Llai o blant yn darllen erbyn hyn' yng Nghymru

Cornel fach mewn ysgol yn rhoi'r cyfle i ddianc i fyd arall. Darllen, un o hanfodion bywyd.

Mae ystadegau'n dangos bod llai na 43% o blant yn mwynhau darllen yng Nghymru. Gyda niferoedd ar draws y Deyrnas Unedig ar ei isaf ers 2005.

Felly sut mae plant yn elwa o ddarllen?

"Mae darllen yn allweddol o ran datblygiad llythrennedd plant. Chi'n gweld y plant sy'n mwynhau darllen a cydio mewn llyfr bod eu geirfa nhw wedi datblygu'n well neu bod ganddyn nhw amrywiaeth ehangach o eirfa a chystrawennau.

"Felly, mae 'na effaith, oes, yn bendant. Ni'n gweithio'n galed i hybu darllen a'r mwynhad o ddarllen ond mae'n gallu bod yn dipyn o waith."

Mae'r effaith yn yr ysgolion yn glir. Mae pryder am lythrennedd plant ac mae cael llyfrau'n hollbwysig. Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae rhai'n poeni am argaeledd nofelau.

"Mae 'na ddwy ochr i'r broblem rili. Mae angen mwy o lyfrau a chyfresi i dynnu pobl mewn a darllen. I'r siopau llyfrau, mi alle fe fod yn echrydus. Mae 'na farchnad fawr i gael yn botensial ar gyfer plant yn darllen.

"Os ni'n dechrau gweld y siopau llyfrau annibynnol yn cau, digon posib na fyddwn ni'n gweld nhw'n agor eto."

I blant, mae'n rhaid i'r straeon gydio.

"Does gen i ddim llawer o amser i ddarllen oherwyd dw i'n brysur ond dw i'n trio fy ngorau i ddarllen mor gymaint ag y gallaf."

"Yn Gymraeg, rwy'n hoffi darllen Fi ac Aaron Ramsey. Rwyf wrth fy modd gyda phêl-droed ac Aaron Ramsey yw fy arwr i."

"Dw i'n mwynhau cyfresi oherwydd bod mwy nag un llyfr i ddarllen."

Yn Wrecsam, mae'r clwb pêl-droed ar y cyd gydag elusen leol wedi cyhoeddi llyfr newydd dwyieithog. Tanio dychymyg plant a phobl ifanc yw'r nod.

"Mae mwy o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Saesneg na'r Gymraeg. Mae hwnna'n rhywbeth mae'r clwb, HP a NABU 'di gweld fel rhywbeth positif i gael llyfr trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae 'na gymaint o sylw di bod ar y clwb yn y blynyddoedd diwethaf. Gobaith o'r llyfr ydy i ddathlu diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg."

Er bod nifer yn mwynhau camu i fyd arall drwy roi trwyn mewn llyfr, mae nifer fwy yn dewis peidio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.