Dod o hyd i gorff ym Mae Caerdydd
06/03/2024
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod ym Mae Caerdydd.
Nid yw’r corff wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu Zahooran Begum sydd ar goll o Drelluest wedi cael gwybod.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r morglawdd ger y canopi, rhwng Bae Caerdydd a Phenarth, tua 11.20 bore Mercher.
Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod ac mae ymholiadau’n parhau.
Roedd Heddlu De Cymru wedi bod yn chwilio am Zahooran Begum, 60, sydd wedi bod ar goll o Drelluest, Caerdydd, ers nos Sadwrn.
Llun: Wikimedia