Newyddion S4C

Prif Gwnstabl Gogledd Cymru yn condemnio ymosodiadau rhywiol gan heddwas

06/03/2024
Heddlu

Mae Prif Gwnstabl y Gogledd wedi condemnio ymddygiad heddwas wnaeth ymosod yn rhywiol ar dair merch yn ystod parti Nadolig.

Penderfynodd gwrandawiad disgyblu ddydd Mercher byddai'r Cwnstabl Joseph Robinson wedi cael sac am gamymddwyn difrifol, onibai ei fod eisoes wedi ymddiswyddo.

"Roedd ymddygiad Robinson y noson honno yn gwbl annerbyniol," meddai Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, Amanda Blakeman.

Dywedodd nad oedd lle yng nghymdeithas ar gyfer y fath ymddygiad "ac yn sicr ddim o fewn Heddlu Gogledd Cymru."

Roedd Robinson wedi targedu'r merched yn ystod y parti, er iddo gael ei herio sawl tro ynglŷn â'i ymddygiad, meddai.

Fis yn ôl, plediodd y cyn-heddwas  28 oed, o Gwernfynydd ger yr Wyddgrug yn euog i dri cyhuddiad o ymosod yn rhywiol. Cafodd ddedfryd o 12 mis o garchar wedi ei gohirio, a cafodd ei enw ei roi ar y rhestr troseddwyr rhywiol am ddeg mlynedd.

Clywodd Llys y Goron Caer fod Robinson wedi bod yn yfed yn drwm cyn ymosod ar y merched yn y parti ym mis Rhagfyr 2022.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin ei fod yn croesawu "camau cadarn a chyflym" yr heddlu.

"Ni ddylai'r rhai hynny sy’n ymddwyn yn y ffordd yma fyth fod mewn swydd sydd fod i warchod pobl eraill," meddai.

Ymddiswyddodd Robinson o'r heddlu ym mis Hydref 2023, a doedd o ddim yn bresennol yn y gwrandawiad disgyblu  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.