Newyddion S4C

Trwyddedau tacsi wedi'u rhoi i yrwyr yng Ngwynedd gyda chollfarnau am ymosod, byrgleriaeth a goryrru

06/03/2024
Tacsi

Mae trwyddedau tacsis gan Gyngor Gwynedd wedi'u rhoi i ymgeiswyr sydd wedi derbyn euogfarnau yn y gorffennol, gan gynnwys unigolion sydd wedi eu cael yn euog o ymosod, byrgleriaeth a goryrru.

Roedd yn cael eu hystyried yn “dderbyniol” i roi'r trwyddedau oherwydd eu bod yn droseddau hanesyddol, gydag un achos wedi digwydd 36 mlynedd yn ôl.

Mewn cyfarfod pwyllgor trwyddedu cyffredinol Cyngor Gwynedd ddydd Llun, bu aelodau yn trafod cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, a gynhaliwyd y tu ôl i ddrysau caeedig.

Roedd y cofnodion yn disgrifio sut oedd un ymgeisydd – “Mr A” – wedi gofyn am drwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat.

Roedd Mr A wedi derbyn sawl collfarn hanesyddol rhwng 1970 a 1987, gan dreulio cyfnod yn y carchar.

Ymhlith y troseddau hanesyddol yr oedd wedi ei gael yn euog ohonynt, roedd byrgleriaeth, ymosod, achosi niwed corfforol, trin nwyddau wedi’u dwyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Nododd yr is-bwyllgor fod collfarnau Mr A yn “hanesyddol” a’u bod wedi digwydd pan oedd yn “ifanc ac yn ffôl”.

Wrth wneud cais am drwydded, roedd Mr A wedi tynnu sylw at ei brofiad o weithio fel gyrrwr tacsi a’i fod yn cael cynnig gwaith yn lleol. Mewn ymateb i pam nad oedd wedi datgan ei euogfarnau ar ei gais, dywedodd ‘Mr A’ fod ei gollfarn ddiwethaf ym 1987 - 36 mlynedd yn ôl – a’i fod yn meddwl “y byddent wedi darfod”.

Ymddiheurodd a dywedodd nad oedd “yn ymwybodol bod euogfarnau hanesyddol yn parhau i gael eu hystyried wrth wneud cais.”

Er gwaethaf nifer y troseddau, roedd polisi’r awdurdod yn ystyried bod “digon o amser” wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiwethaf i ganiatáu’r drwydded.

Roedd yr ymgeisydd yn rhydd o euogfarnau am 36 mlynedd ac “nid oedd ganddo unrhyw hanes pellach o droseddu nac unrhyw dystiolaeth o broblemau perthnasol eraill”.

Penderfynwyd ei fod yn “berson addas a phriodol” i gael y drwydded.

Derbyn pwyntiau

Mewn achos arall, gwnaeth ‘Mr B’ gais am drwydded gyrrwr hacni/hurio preifat.

Ym mis Mai 2021, derbyniodd dri phwynt cosb am dorri’r terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus – gan ddod i ben ym mis Mai 2024.

Derbyniodd dri phwynt cosb arall (SP30) am dorri’r terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus fis Mehefin 2021, gan ddod i ben ym Mehefin 2024.

Nid oedd yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau, sydd yn amod o unrhyw drwydded tacsi.

Derbyniwyd y dylai’r wybodaeth fod wedi cael ei rhannu. Nodwyd mai cais ydoedd i adnewyddu'r drwydded a bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau ar ei gais.

Roedd dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio heb drosedd, ac roedd yr ymgeisydd wedi “cydnabod ei fai”.

Penderfynodd yr is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn “berson addas a phriodol” i dderbyn y drwydded.

'Ymosodol'

Mewn trydydd achos, gwnaeth “Mr C” gais am drwydded gyrrwr hacni/hurio preifat.

Ym mis Awst, 2023, ymwelodd yr ymgeisydd â swyddfeydd y cyngor a siarad ag aelod o staff y dderbynfa “yn amhriodol ac yn ymosodol”, oedd wedi arwain at y mater yn cael ei adrodd.

Sawl diwrnod yn ddiweddarach, fe wnaeth yr ymgeisydd dychwelyd i'r swyddfeydd i gwrdd â dau swyddog trwyddedu, a ddywedodd wrtho “fel ymgeisydd am drwydded gyrrwr tacsi...na fyddai ymddygiad drwg tuag at swyddogion y cyngor yn cael ei oddef”.

Roedd yr ymgeisydd yn “rhwystredig nad oedd y broses ymgeisio yn un syml, a’i fod eisiau dechrau ennill bywoliaeth”.

Ym mis Hydref 2023, roedd yr ymgeisydd wedi ffonio’r swyddog trwyddedu.

Ond, yn ôl y cofnodion, “roedd agwedd yr ymgeisydd eto’n annerbyniol, fe wnaeth regi ar y swyddog dros y ffôn a chollodd ei dymer”.

Credai’r is-bwyllgor fod ymddygiad yr ymgeisydd yn “gwbl annerbyniol”.

Croesawodd yr is-bwyllgor y ffaith bod yr ymgeisydd yn cydnabod nad oedd ei ymddygiad “yn cyrraedd y safonau disgwyliedig”.

Gan nad oedd unrhyw euogfarnau yn ei erbyn, rhoddodd yr is-bwyllgor ystyriaeth i’r cais yng nghyd-destun diogelu’r cyhoedd.

Rhoddwyd ystyriaeth i'r prawf; ‘a fyddai aelodau’n fodlon caniatáu i aelod agos o’u teulu deithio mewn cerbyd, ar eu pen eu hunain, gyda’r ymgeisydd?’

Wedi cyfarfod â’r ymgeisydd roedd yr is-bwyllgor yn fodlon, ac fe’i hystyriwyd yn “berson addas a phriodol” i ddal y drwydded.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.