Miloedd o barau o welingtons ar risiau’r Senedd i brotestio yn erbyn cynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru
Miloedd o barau o welingtons ar risiau’r Senedd i brotestio yn erbyn cynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru
Mae miloedd o barau o welingtons wedi eu gadael ar risiau'r Senedd bore ‘ma i brotestio yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermydd.
Roedd NFU Cymru wedi dweud yn flaenorol eu bod nhw am annog ffermwyr i roi eu hen sgidiau glaw fel rhan o arddangosfa er mwyn tynnu sylw at yr hyn y maen nhw’n dweud sy’n ddiffygion yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disgwyl i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer cynefinoedd.
Dywedodd yr undeb fod yr arddangosfa symbolaidd o 5,500 o sgidiau glaw yn darlunio’r 5,500 o swyddi amaethyddol y maen nhw’n rhagweld fydd yn cael eu colli.
Mae hynny’n seiliedig ar ffigurau o asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun, medden nhw.
Inline Tweet: https://twitter.com/NFUCymru/status/1765312333360877956?s=20
Wrth siarad cyn gosod y welingtons, dywedodd un o’r trefnwyr Paul Williams eu bod am “wneud datganiad gwirioneddol i wleidyddion a’r cyhoedd am effaith syfrdanol y cynigion hyn ar swyddi amaethyddol yng Nghymru”.
“Nid wrth gât y fferm yn unig y bydd yr effaith i’w theimlo, ond ar draws y gadwyn gyflenwi a thrwy ein cymunedau gwledig.
“Drwy osod y 5,500 o barau o welingtons ar risiau’r Senedd, byddwn yn rhoi darlun clir o wir effaith y cynigion hyn ar ein sector.
“Mae hon yn ffordd o wneud ein pwynt mewn ffordd heddychlon ond dylanwadol, ond mae angen cymorth ffermwyr i’w wireddu.”
Meddai’r cyd-drefnydd Llŷr Jones: “Rydym yn ddiolchgar i’r cwmnïau hynny sydd wedi cynnig eu cefnogaeth i’r fenter hon drwy helpu gyda chasglu a logisteg.
“Byddwn yn annog unrhyw ffermwyr sydd â hen welingtons ar y fferm i fynd â nhw i ganolfan gasglu a’n helpu ni i wneud defnydd da ohonyn nhw.”
'Ymgynghoriad'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru'r wythnos diwethaf: “Mae ffermio’n bwysig iawn i Gymru a’i heconomi ac rydyn ni eisiau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru.
“Rydym wedi cael trafodaeth saith mlynedd gyda ffermwyr i ddylunio cymorth ffermio yn y dyfodol ac rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda ffermwyr i ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Mae hwn yn ymgynghoriad gwirioneddol ac ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud ar unrhyw elfen o’r cynnig, gan gynnwys sut rydym yn cyflawni’r gofyniad am gynefin a choed, hyd nes y byddwn wedi cynnal dadansoddiad llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
“Rydym wedi bod yn glir ein bod yn disgwyl i newidiadau gael eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad, a byddwn yn parhau i wrando.”