Newyddion S4C

Streic y Glowyr: Cymunedau'r cymoedd yn 'parhau i deimlo effaith colli'r holl swyddi'

06/03/2024
Mark Maybanks

40 mlynedd ers dechrau streic y glowyr, mae rhai o gyn-lowyr y de wedi dweud nad yw eu cymunedau wedi gweld diwedd ar effaith colli cynifer o swyddi yn lleol.

Ar 6 Mawrth 1985, fe ddechreuodd streic y glowyr wedi i weithwyr pwll glo Cortonwood yn Sir Efrog bleidleisio i adael eu gwaith yn dilyn cyhoeddiad gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn gynharach y flwyddyn honno y byddai’n cau 20 o byllau, gan arwain at golli 20,000 o swyddi ledled y DU.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddarach y byddai pum pwll glo arall yn cael eu cau ar frys o fewn cyfnod o bum wythnos, ymunodd degau o filoedd o lowyr ar hyd a lled y wlad â’r streic.

Mae effaith y streic yn dal i gael ei deimlo hyd heddiw meddai Mark Maybank, 66 oed, o bentref Aberfan, oedd yn gweithio ym mhyllau glo'r de am gyfnod o bron i 30 mlynedd.

“Nid yw ein cymunedau lleol byth wedi gweld diwedd effaith streic y glowyr, byth wedi gweld diwedd colli gymaint o swyddi,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

“Ar ôl i’r pyllau glo gau, fe gafodd e effaith uniongyrchol ar bob pentref. Doedd pobl ddim yn gwario eu harian yn y siopau, caffis a chlybiau rhagor.

“Roedd ‘na effaith ofnadwy ar bentrefi Hirwaun, Aberfan, Treharris – pob cymuned y glowyr.

“Nid yw’r cymunedau rheiny erioed wedi gweld cyfleodd swyddi ar yr un raddfa ers hynny, ac mae hynny’n cynnwys pawb; gweithwyr, rheolwyr, trydanwyr, peirianwyr.

“Roedd 600 o lowyr yng Nglofa Merthyr, ac oddeutu 530 yng Nglofa’r Tŵr yn Hirwaun ar un adeg, ac fe gafwyd effaith dinistriol ar y swyddi ‘na,” meddai.

Image
Streic y glowyr

'Cofio'

Wrth nodi 40 mlynedd ers dechrau’r streic, mae’n bwysig cofio am yr holl “gymrodorion” a gafodd eu colli yn ystod y gweithredu diwydiannol, yn ogystal â’r glowyr sydd bellach wedi marw ers hynny, meddai Mr Maybank.

Ond mae cofio am yr ymdrechion picedu ei hun hefyd yn hollbwysig, ychwanegodd – ac mae hynny’n hel atgofion “dychrynllyd” a “bygythiol.”

“Pan gafodd y streic ei galw, cawsom ni ei rhoi ar ddyletswydd picedu gan yr undeb ac ‘odd hwnna’n anodd iawn achos o’n ni’n gwylio glowyr yn ceisio brwydro am eu swyddi gan wrthdaro â’r heddlu.

“Roedd gan yr heddlu geffylau a batonau ac roedd y glowyr jyst yn ceisio cadw eu swyddi. Ar ddiwedd y dydd, o’n nhw’n brwydro am eu bywoliaeth; brwydro er mwyn goroesi.

“O’n i’n dyn ifanc 22 oed ar y pryd, yn picedu am 12 mis heb ennill y ddadl, achos doeddwn ni ddim wedi ennill yn y bôn. Cafodd y pyllau glo eu cau yn ddiweddarach beth bynnag."

Image
Tad-cu Mark Maybanks
Tad-cu Mark Maybank, Edward, yn cael ei glodfori am ei waith ym mhyllau glo y de ym mhapur newydd The Times

'Cymuned'

Ond roedd streic y glowyr hefyd wedi galluogi cymunedau i ddod at ei gilydd, meddai rhai o gyn-lowyr yr ardal wrth Newyddion S4C.

Ac roedd cefnogaeth gan wragedd y glowyr yn greiddiol i’w hymdrechion, gyda nifer yn creu parseli bwyd ar gyfer teuluoedd oedd yn brin o arian, yn ogystal ag i’r glowyr oedd yn ei chanol hi’n streicio.

Lorraine Dyton o Hirwaun oedd un o’r rheiny ac fe benderfynodd gymryd rhan flaenllaw wrth gefnogi ei gŵr, Alan Dyton – oedd yn gweithio yn y pyllau glo am gyfnod o 37 mlynedd – gan greu parseli bwyd o’i chegin ar gyfer glowyr Glofa’r Twr, oedd yn treulio eu dyddiau’n streicio.

Yn weithiwr siop Woolworth’s yn Aberdâr ar y pryd, penderfynodd Ms Byton weithio mewn ail swydd yn y Clwb Ceidwadol ym mhentref Hirwaun er mwyn cefnogi ei theulu’n ariannol hefyd.

“Fe wnes i gymryd rhan mewn gorymdaith yn Llundain yn Hyde Park ac yn lleol hefyd yn Aberdâr, ac o’n i’n cefnogi fy ngŵr trwy weithio ail swydd oherwydd doedd dim incwm gynnon ni.

“Doedd dim plant ‘da ni ar y pryd, diolch byth, a wnaethon ni ddim cymryd parsel bwyd am 37 wythnos oherwydd roeddwn ni’n ymdopi – ond roedd rhaid i ni ar y 37ain wythnos.

“Rwy’n cofio cerdded mewn i gangen Halifax a dweud o’n i ‘mond yn gallu talu £6 oddi ar fy morgais y mis hwnnw, ac oedd hwnna’n beth anodd i wneud.

“Ond o leiaf roeddwn ni’n talu rhywbeth oddi ar ein morgais, achos roedd rhai pobl ar ei hôl hi’n sylweddol,” meddai.

Image
Lorraine Dyton
Lorraine Dyton a'i gŵr, Alan

Yn 11 oed ar y pryd, mae Carl Barter o Aberpennar yng Nghwm Cynon yn cofio’r cymorth a gafodd ei deulu gan fanciau bwyd yn ystod streic y glowyr.

“Roedd fy nhad yn y streic ac o’n i arfer mynd i’r llinell biced gyda fe, a hefyd rhoi parseli bwyd iddo fe tra oedd e’n streicio ar stâd ffyrnaseit Abercwmboi.

“Fe es i Orgrave a Nottingham gyda fe i brotestio, ac yn fachgen ifanc, fe es i drwy lawer wrth fynd i’r banciau bwyd ar ôl ysgol, ac roedd rhaid imi fynd i gasglu glo o’r pyllau er mwyn cadw’r tân i fynd,” meddai. 

Image
Streicio
Y llinell piced yn Abercwmboi, 1984 (Llun: Carl Barter)

'Pobl arbennig'

Yn cyn-löwr yng Nglofa Maerdy, mae Gwyn Williams, 72 oed, o Gwmbach, yn cofio’r heriau yr oedd teuluoedd yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod.

“Doedd e ddim yn anodd i mi achos o’n i’n gwerthu tatws, felly o’n i’n lwcus. O’n i’n ennill 50c ar gyfer pob sach o’n i’n gwerthu, felly yn ennill £20 neu £30 y dydd, ac oedd hwnna’n dda ar y pryd.

“Roedd babi bach gyda fi ac fe ddaeth teulu cyn popeth arall, ond roedd y streic wedi effeithio pawb yn wahanol.

“Roedd yr awyrgylch yn grim, ac roedd e’n anodd iawn i gymdeithasu.”

Ond er gwaetha’r cyfnod, mae’r cyn-lowyr yn parhau i gofio’r “bobl arbennig” a’r gymuned “glos."

“Byswn i ‘di aros lot hirach os nad oeddent nhw ‘di cau,” meddai Mr Williams.

Ychwanegodd Mark Maybank: “Byddai unrhyw cyn-lowyr yn dweud y peth maen nhw’n ei golli fwyaf am y pyllau oedd yr holl chwerthin.

“Mae’n rhywbeth na fyddech chi byth yn cael mewn unrhyw swydd arall.”

Image
Cyn glowyr
Cyn-lowyr de Cymru ar daith aduniad yn Bournemouth (Llun: Mark Maybank)

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.