Pêl-droed: Ysgol Syr Hugh Owen yn bencampwyr eto
05/03/2024
Mae Ysgol Syr Hugh Owen yng Ngwynedd yn bencampwyr pêl-droed Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Dyma'r tîm cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i godi'r tlws dair gwaith yn olynol.
Inline Tweet: https://twitter.com/AGysho/status/1765072858009813426?s=20
Enillodd tîm o dan 16 yr ysgol gystadleuaeth Cwpan Ysgolion Cymru wedi iddynt drechu Ysgol Uwchradd Mary Immaculate o Gaerdydd o 7-2 ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd adran Addysg Gorfforol yr ysgol: "Creu hanes go iawn. Bechgyn hynod o dalentog sydd wedi dod a chlod i’w a ysgol a chymuned."