Newyddion S4C

Diwrnod y Llyfr: 'Llai o blant yn darllen erbyn hyn'

Newyddion S4C 05/03/2024

Diwrnod y Llyfr: 'Llai o blant yn darllen erbyn hyn'

Wrth i ysgolion baratoi ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn ddiweddarach yr wythnos hon, pa mor boblogaidd yw darllen ymysg plant a phobl ifanc erbyn hyn?

Wrth i arferion darllen newid, mae rhai yn pryderu am ddyfodol llenyddiaeth a’r effaith y mae diffyg darllen yn ei gael ar safon llythrennedd plant.

Mae ystadegau diweddaraf gan sefydliad y National Literacy Trust, yn dangos bod nifer y plant sy’n mwynhau darllen ar draws y DU ar ei lefel isaf ers 2005.

Dim ond 42.5% o blant Cymru oedd yn mwynhau darllen y llynedd.

Cyfleoedd

Mae’r awdur Alun Davies yn cydnabod bod yna ‘ddwy ochr i’r broblem‘.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: ‘Ma' angen creu mwy o lyfrau sy’n apelio a cyfresi yn enwedig sy mynd i dynnu pobl mewn a moyn iddyn nhw ddarllen mwy a ma isie cal y neges yna allan yna bod nhw ar gael.

“I’r siopau llyfrau, mi alle fe fod yn echrydus. Ma ‘na farchnad fawr i gal yn, potensial ar gyfer plant. Os i ni’n dechre gweld y siopa llyfrau ma yn cau, digon posib na fyddwn ni’n gweld nhw’n agor eto."

Image
Alun Davies

Safon

Mae’r sgil-effeithiau hefyd i’w gweld yn yr ysgolion, yn ôl un dirprwy bennaeth. 

Er yr ymdrechion i hybu mwynhad mewn darllen, mae Elin Llywelyn Williams o Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Porth, yn cyfaddef ei bod yn "cymryd dipyn o waith".

Ac mae’r effaith i’w weld ar safon llythrennedd disgyblion, meddai.

“Ma’r effaith ma darllen yn ei gael ar safonau plant, safon llythrennedd, o ran rhuglder, o ran hyder hefyd efallai i ddefnyddio geirfa i ehangu geirfa i siarad.

“A darllen o ran profiadau dysgu hefyd mae’n amlwg bod hyn yn cael, neu diffyg darllen yn cael effaith ar gyrhaeddiad neu ar safonau plant.

“Ma nhw'n brysur, ma nhw’n aelodau o glybiau chwaraeon, ma nhw’n perfformio, ma nhw‘n neud bob math o bethe. Technoleg yn rhan mor fawr o’u bywydau nhw."

Er bod dianc i fyd arall trwy ddarllen yn hollbwysig, yn ôl Mrs Williams, i’w disgyblion hi, mae’n rhaid i’r straeon gydio.

Dywedodd Sadie ei bod hi’n mwynhau darllen ond rhaid i’r llyfr "apelio."

“Does gen i ddim llawer o amser i ddarllen oherwydd tu fas i’r ysgol rwy’n brysur ond rwy’n trio ngorau i darllen mor gymaint ag y gallai,” meddai.

Esboniodd Mila bod cyfresi yn denu hi i ddarllen mwy: "Hoffi pethau gyda mwy nag un llfyr. Fel series. Dwi’n mwynhau cyfresi darllen. Mae’n dda fod stori i cario ymlaen."

Image
Mrs Elin Llywelyn Williams

Dal sylw

Er mwyn hybu mwy o ddarllen, yn ôl yr awdur Alun Davies rhaid "dal sylw a chyffroi" plant gyda llyfrau newydd.

Dyma oedd ei fwriad gyda’r nofel gyntaf i bobl ifanc, Manawydan Jones: Y Pair Dadeni

Dywedodd: "Pan o‘n i‘n darllen llyfrau i’m mhlant o‘n i‘n darllen llfyrau fel Harry Potter. O’n i‘n meddwl falle bod na fwlch yn y farchnad i gal i rhieni sydd eisiau i ddarllen i bant ifancach.

“Neu plant sy’n cyrraedd yr oedran lle ma nhw moyn darllen eu hunain.

“Ma‘ yna antur, tywyllych, i drio dal sylw a cyffroi."

Er hyn, mae’n cydnabod bod marchnata i’r oedran iau yn her ychwanegol

“Mae’n anodd iawn – does ddim yn teledu a radio cymaint a mae i gyd yn cyfryngau cymeithasol.

“A dwi’n meddwl, y broblem hefyd yw yn hytrach na darllen be sy’n digwydd yw ma nhw’n treulio lot o amser ar ffôns a rhwydweithiau cymdeithasol sydd yn rhoi’r mwynhad byr dymor iddyn nhw.

“Ma plant yn gallu colli allan ar wledd o bethau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.