Newyddion S4C

Oedi cynlluniau ffyrdd newydd: Yr ymateb o Landeilo

Newyddion S4C 22/06/2021

Oedi cynlluniau ffyrdd newydd: Yr ymateb o Landeilo

Fe fydd cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu hoedi er mwyn cynnal adolygiad i'r prosiectau.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, fod angen "torri allyriadau carbon yn sylweddol".

Mae'r cynlluniau sydd wedi eu hoedi yn cynnwys pont newydd dros Afon Menai a ffordd osgoi Llandeilo.

Cafodd yr adolygiad gael ei gyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth.

Draw yn Llandeilo nid pawb oedd yn hapus gyda'r penderfyniad. 

"Fi'n teimlo itha crac, ond sy'm byd allwn ni neud yn biti fe." dywedodd Ann Richards, perchennog Siop Igam Ogam. 

"Ma' mas o'n dwylo ni, ond ma' isie 'bypass' arnom ni."

"Fi'n credu bo Llandeilo yn cael i ollwng tu ôl gyda phopeth ar hyn o bryd."

"Sa' i'n siwr fel ni mynd i symud mlan o hwn," dywedodd unigolyn arall o'r dref. 

"Ond 'ma rhaid rhywbeth i ddigwydd achos mae'r llygredd yn Llandeilo yn afiach ar y funud a mae'r lefelau yn rili wael."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.