Newyddion S4C

Covid ddim y 'brif flaenoriaeth' i Lywodraeth Cymru ar ddechrau 2020

05/03/2024
andrew goodall.png

Clywodd yr Ymchwiliad Covid-19 ddydd Mawrth nad y feirws oedd y 'brif flaenoriaeth' i Lywodraeth Cymru ar ddechrau 2020.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford mewn tystiolaeth ysgrifenedig i Ymchwiliad Covid-10 y DU nad y feirws oedd y pryder mwyaf i'r wlad ym mis Ionawr a Chwefror 2020. 

Cafodd tystiolaeth Mr Drakeford ei nodi gan Tom Poole KC, cwnsler cyffredinol yr ymchwiliad, mewn gwrandawiad ddydd Mawrth yn ystod sesiwn gwestiynau i Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru yn ystod y pandemig. 

Dywedodd Mr Poole: "A fyddai hi'n deg i ddweud na chafodd y tybiaethau tebygol hyn eu cymryd ddigon o ddifrif yn y cyfnod hwnnw, ac mai dim ond yn wythnosau cynnar mis Mawrth y dechreuodd pethau ddigwydd go iawn yng Nghymru?"

Ymatebodd Dr Goodall drwy fynnu fod "nifer o weithredoedd gwahanol" wedi eu gwneud ar ddechrau'r pandemig, ond derbyniodd fod yna "newid yn ein hymateb yng Nghymru" wedi bod yn wythnos olaf Chwefror a dechrau Mawrth 2020. 

"Ddechrau Mawrth, roeddem ni hefyd yn edrych ar gynnydd y feirws yn fwy rhyngwladol, ac roedd yna bryderon gwirioneddol yn cael eu mynegi gan y GIG, ac roeddem ni'n eu hystyried," meddai Dr Goodall. 

Cafodd yr achos cyntaf o'r feirws yng Nghymru ei gofnodi ar 28 Chwefror. 

Gofynnodd Mr Poole a wnaeth adroddiadau o 13 Chwefror 2020, a oedd yn dangos "gwybodaeth glir' y gallai'r feirws gael ei drosglwyddo heb symptomau, ddechrau "cynyddu'r pryder" am y lefel o reolaeth a fyddai ei angen mewn cartrefi gofal ac ysbytai. 

Dywedodd Dr Goodall mai dim ond ym mis Ebrill y daeth yna "rywfaint o dystiolaeth i'r amlwg" y gallai Covid gael ei drosglwyddo heb symptomau. 

Ond derbyniodd y gallai'r ffordd yr oedd cleifion yn cael eu rhyddhau o ysbytai "fod wedi cael ei thargedu'n wahanol".

'Diwrnod trist i ddemocratiaeth'

Yn y cyfamser, roedd nifer o Aelodau'r Senedd yn anhapus gydag agwedd Mr Drakeford ddydd Mawrth wrth iddo wrthod ateb unrhyw gwestiwn yn y Senedd yn ymwneud â thystiolaeth sydd eisoes wedi ei rhoi i Ymchwiliad Covid-19 y DU. 

Gofynodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies am eglurhad o ddefnydd Mr Drakeford o WhatsApp yn sgil tystiolaeth a roddwyd yn yr ymchwiliad. 

Gofynodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth os oedd yn anghywir i unrhyw weinidog yn Llywodraeth Cymru ddileu negeseuon WhatsApp yn ystod y pandemig.

"Mae'r ffaith fod y Prif Weinidog yn gwrthod ateb cwestiynau yn y Senedd yn ymwneud â thystiolaeth sydd eisoes wedi ei chlywed yn Ymchwiliad Covid-19 y DU yn "ddiwrnod trist i ddemocratiaeth," meddai.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n ateb unrhyw gwestiwn am yr ymchwiliad pan fydd yn cael ei holi yn y gwrandawiad yr wythnos nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.