Teyrnged i berchennog tafarndai a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn ystod oriau man fore Iau, 29 Chwefror ar gylchfan Pensarn yng Nghaerfyrddin.
Roedd Alun Harrow yn 76 oed, ac wedi bod yn berchennog sawl tafarn yn y de orllewin.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Roedd Alun yn berchennog tafarn gydol ei fywyd, a hynny yn ei ardal leol. Roedd yn cael ei gysylltu'n bennaf â thafarn The Telegraph yn Rhydaman, Y Llew Gwyn yng Nghydweli, ac yn fwyaf diweddar The Horse & Groom a'r Carmarthen Arms yn Hwlffordd.
"Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli yn fawr iawn."
Dywedodd yr heddlu ar y pryd bod car wedi taro yn erbyn goleuadau traffig ar yr A48 ar gylchfan Pensarn yng Nghaerfyrddin tua 02.50.
Bu farw Mr Harrow yn yr ysbyty.
Bu’r A48 rhwng Nant-y-caws a Chaerfyrddin ar gau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad.
Llun: Heddlu Dyfed Powys