Dynes 71 yn cael ei chodi i'r awyr gan gaeadau siop
Mae fideo wedi mynd yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n dangos dynes o Rondda Cynon Taf yn cael ei llusgo i'r awyr gan gaeadau trydan siop wrth iddynt agor am y dydd.
Mae lluniau teledu cylch cyfyng wedi dal y foment y cafodd Anne Hughes, 71, ei chodi gan y caeadau tra roedd hi'n sefyll y tu allan i archfarchnad Best One yn Nhon-teg, ychydig cyn 8am ddydd Llun.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1764983074679304195?s=20
Wrth i'r llen godi, mae cefn côt Anne yn cael ei dal ynddi, gan ei chodi a'i gadael yn hongian wyneb i waered.
Wrth siarad â'r Daily Mail yn ei chartref ger y siop, dywedodd Anne: "Roeddwn i'n sefyll yno pan gafodd fy nghot ei dal ac es i i fyny i'r awyr.
"Roeddwn i'n meddwl flipping heck! 'Mae pobl yn dweud y gallai ddigwydd i unrhyw un, ond na, dim ond i mi y gallai hyn ddigwydd!
"Mae'n lwcus bod gen i synnwyr digrifwch da."ychwanegodd Anne.
O fewn eiliadau, roedd perchennog siop y siop wedi rhuthro allan i helpu Anne, cyn ei bod yn ôl yn ddiogel ar ei thraed.