Newyddion S4C

'Y mwyaf caredig': Teyrnged teulu i ddynes a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llangollen

05/03/2024
Sarah Elizabeth Grimshaw

Mae teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llangollen wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel y person “mwyaf caredig a mwyaf anhunanol.”

Bu Sarah Elizabeth Grimshaw, oedd yn 39 oed ac o ardal Y Waun, mewn gwrthdrawiad rhwng car a thractor ar ddydd Mawrth 30 Ionawr.

Cafodd Mrs Grimshaw, oedd yn gyrru car Kia Rio, ei chludo i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd ei throsglwyddo'n ddiweddarach i Ysbyty Maelor Wrecsam ond bu farw yno ar ddydd Mawrth 27 Chwefror.

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ac yn apelio am ragor o wybodaeth am y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd toc wedi 07:00 y bore ar Ffordd yr Abaty yn Llangollen.

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu: “Roedd yn fraint cael rhannu ein bywydau gyda Sarah. Roedd ganddi’r gallu unigryw i gerdded i mewn i ystafell a bywiogi diwrnod pawb gyda'i egni di-ben-draw a gwallgofrwydd pur. Roedd ganddi galon o aur yn llifo gyda chariad diddiwedd at bob person ac anifail.

“Sarah oedd y wraig, merch, chwaer, Arweinydd Brownies mwyaf caredig a mwyaf anhunanol, gyda gwir gariad tuag at anifeiliaid. Roedd ei chynhesrwydd heintus yn gwneud y byd yn lle gwell i bawb y daeth i gysylltiad â hi.

“Bydd colled fawr ar ôl Sarah ac fe fydd bywydau nifer fawr o bobl yn dywyllach byth hebddi.”

Dywedodd Sarjant Stephen Richards o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â theulu a ffrindiau Mrs Grimshaw ar yr amser hynod anodd hwn.

“Rydym yn gofyn i unrhyw un a oedd yn ardal Llangollen ar fore dydd Mawrth 30 Ionawr ac a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau camera cerbyd i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Gall unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000131722.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.