Newyddion S4C

Plant yn marw o newyn yn Gaza medd pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd

05/03/2024
newyn Gaza

Mae pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dweud bod plant yn marw o newyn yng ngogledd Gaza.

Dywedodd Tedros Adhanom Ghebreyesu bod ymweliadau’r asiantaeth dros y penwythnos ag ysbytai Al-Awda a Kamal Adwan wedi datgelu “canfyddiadau erchyll”.

Fe wnaeth 10 o blant farw o achos diffyg bwyd meddai ac mae rhai o adeiladau'r ysbytai wedi'u dinistrio.

Dyma'r tro cyntaf ers dechrau Hydref i'r corff fedru ymweld â'r ysbytai meddai.

Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas mae o leiaf 15 o blant wedi marw o achos diffyg maeth ddydd Sul yn ysbyty Kamal Adwan.

Bu farw plentyn arall mewn ysbyty yn ninas ddeheuol Rafah ddydd Sul medd asiantaeth newyddion swyddogol Palestina, Wafa.

'Sefyllfa enbyd'

Dywedodd Dr Tedros bod “lefelau difrifol o ddiffyg maeth, plant yn marw o newyn, prinder tanwydd difrifol, bwyd a chyflenwadau meddygol, adeiladau ysbyty wedi’u dinistrio” yng ngogledd Gaza.

Y gred yw bod tua 300,000 o bobl yn byw heb fawr o fwyd na dŵr glân yno.

“Fe wnaeth y diffyg bwyd arwain at farwolaethau 10 o blant,” meddai  ar wefan X (twitter gynt).

"Mae'r sefyllfa yn Ysbyty Al-Awda yn enbyd iawn am fod un o'r adeiladau wedi cael ei ddinistrio," ychwanegodd.

Rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig yr wythnos diwethaf fod newyn yn Gaza "bron yn anochel".

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.