Newyddion S4C

Perygl i gytundeb Plaid a Llafur oherwydd Cynllun Ffermio newydd

Sunak yn cwrdd a ffermwyr

Dylai Plaid Cymru fygwth dod â’i chytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru i ben er mwyn sicrhau newidiadau i gynllun ffermio newydd medd un Aelod Seneddol. 

Dywedodd Ben Lake, AS Plaid Cymru Ceredigion, wrth Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun y dylai'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei ohirio er mwyn iddynt gael datblygu “polisi priodol”.

Ychwanegodd y byddai’n “gwneud popeth” i gefnogi ei gydweithwyr yn y Senedd.

“Os yw hynny’n golygu rhoi diwedd ar y cytundeb cydweithio, yna fyddai’n sicr ddim yn galaru ei farwolaeth,” meddai Mr Lake.

Mae gan y blaid Lafur yng Nghymru 30 o seddi yn y Senedd - un sedd yn brin o fwyafrif cyffredinol. Plaid Cymru yw’r drydedd blaid fwyaf, gyda 13 o seddi.

Fe gyhoeddodd y ddwy blaid gytundeb cydweithio yn 2021 ar draws nifer o feysydd polisi.

Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn disgwyl i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer cynefinoedd.

Angen gohirio'r cynllun

Mae nifer o ffermwyr yn gwrthwynebu'r cynllun, sy'n rhoi mwy o bwyslais ar ffermio sy’n llesol i’r amgylchedd, ac yn disodli’r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r taliadau hyn wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymru.

Yr wythnos diwethaf, roedd miloedd o ffermwyr a'u teuluoedd a phobl o gefn gwlad wedi teithio i Fae Caerdydd ar gyfer protest fawr y tu allan i'r Senedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwrando ar bryderon ffermwyr a bod gwneud newidiadau i'r cynllun yn bosib.

Wrth siarad yn ystod dadl ffermio yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd yr AS Ceidwadol Robin Millar fod ffermwyr yn ei etholaeth yn Aberconwy yn credu y bydd colli incwm yn sgil y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn “wahaniaeth rhwng cael dyfodol a pheidio”.

Ychwanegodd Mr Millar wrth gyfeirio at Mr Lake: “Felly pa neges sydd ganddo i’w gydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn y Senedd sy’n cynnal y Llywodraeth Lafur drwy gytundeb cydweithio?

“A yw’n cytuno â mi y gallai pleidlais gyllideb prynhawn fory fod yn gyfle da iddynt ailystyried cydweithio?"

Wrth ymateb dywedodd Mr Lake: “Rwy’n meddwl ei fod [Mr Millar] yn iawn i ddatgan ofnau ei ffermwyr, sy’n cyd-fynd i raddau helaeth â’r rhai a gafodd eu mynegi wrthyf i gan ffermwyr yng Ngheredigion, fod y newidiadau posib i’r polisi hwn, a dweud y gwir, yn fater o fywyd neu farwolaeth ar gyfer eu busnesau. 

Yn dal i 'wrando'

 Ychwanegodd bod angen newid y cynllun a'i ohirio er mwyn "dyfeisio polisi priodol sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, ac os bydd fy nghydweithwyr yn penderfynu bod angen iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i wneud hynny, yna pob lwc iddynt.

“Os yw hynny’n golygu rhoi diwedd ar y cytundeb cydweithio, yna ni fyddaf yn galaru ei farwolaeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru'r wythnos diwethaf: “Mae ffermio’n bwysig iawn i Gymru a’i heconomi ac rydyn ni eisiau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru.

“Rydym wedi cael trafodaeth saith mlynedd gyda ffermwyr i ddylunio cymorth ffermio yn y dyfodol ac rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda ffermwyr i ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Mae hwn yn ymgynghoriad gwirioneddol ac ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud ar unrhyw elfen o’r cynnig, gan gynnwys sut rydym yn cyflawni’r gofyniad am gynefin a choed, hyd nes y byddwn wedi cynnal dadansoddiad llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

“Rydym wedi bod yn glir ein bod yn disgwyl i newidiadau gael eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad, a byddwn yn parhau i wrando.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.