Cyhuddo dyn ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
Mae dyn 32 oed wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ar ôl i ddynes 60 oed gael ei tharo gan gar yng Nghaerdydd.
Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i Stryd Minny yn ardal Cathays am 01:00 fore Sul, 3 Mawrth.
Mae’r ddynes yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae Marcus Frankie Falzon o’r Rhath, Caerdydd wedi’i gyhuddo o achosi anaf difrifol trwy yrru’n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol a methu â rhoi gwybod am wrthdrawiad.
Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau gyrru gan gynnwys gyrru heb drwydded, gyrru heb yswiriant, ceisio pasio car arall mewn ffordd ymosodol a methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Llun: Google