Newyddion S4C

Bachgen 13 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwm Cynon

04/03/2024
Heol Aberhonddu

Mae bachgen 13 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwm Cynon ddydd Iau diwethaf. 

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru mai Kaylan Hippsley yw enw'r bachgen a fu farw, a'i fod yn dod o Hirwaun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Aberhonddu, Hirwaun am 18.25 nos Iau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta brown a'r bachgen a oedd yn cerdded ar y pryd. 

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad. 

Fe ymddangosodd Harley Whiteman, 19 oed o Hirwaun, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn wedi’i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus a methu â darparu prawf i’w ddadansoddi.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos mewn gwrandawiad arall yn Llys y Goron Merthyr fis nesaf.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio am dystion a lluniau neu luniau camera cerbyd o’r Ford Fiesta brown oedd yn cael ei yrru o amgylch ardal Hirwaun cyn y gwrthdrawiad.

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400069631.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.