Dynes yn mynd i drafferthion wrth ddeifio ger Porthaethwy ym Môn
04/03/2024
Cafodd dynes aeth i drafferthion wrth ddeifio yn y môr ger arfordir Môn ei chludo i ysbyty ar gyfer triniaeth arbenigol ddydd Sul.
Roedd y ddynes yn dangos arwyddion o fod yn dioddef o effeithiau'r 'bends', sef salwch datgywasgu, ym Mhorth y Wrach ger Porthaethwy.
Aeth y gwasanaethau brys i'r digwyddiad am 15:45 gan gynnig ocsigen iddi ar y lan.
Ar ôl i barafeddygon ei harchwilio cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd cyn i hofrennydd ei hedfan i Ysbyty Murrayfield ger Lerpwl.
Yno fe gafodd ei rhoi mewn siambr datgywasgu arbennig.