Newyddion S4C

Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau yn mynnu 'cadoediad ar unwaith' yn Gaza

04/03/2024
kamala harris.png

Mae Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Kamala Harris, wedi mynnu 'cadoediad ar unwaith' yn Gaza.

Dywedodd Ms Harris fod pobl yn Gaza yn "llwgu".

Mae wedi dweud bod angen i Israel "gynyddu'r cymorth yn sylweddol" yno.

Ychwanegodd y byddai cadoediad chwe wythnos yn sicrhau y byddai gwystlon o Israel yn gallu cael eu rhyddhau. Byddai hefyd yn golygu y gallai mwy o gymorth fynd i mewn i Gaza.

Yn gynharach, ni wnaeth Israel fynychu trafodaethau cadoediad gyda'r Aifft, gan ddweud nad oedd Hamas yn rhyddhau'r rhestr o wystlon oedd yn parhau yn fyw.

Y gred yw bod aelodau o dîm Hamas a chynrychiolwyr o UDA a Qatar yn bresennol yn Cairo er mwyn cynnal y trafodaethau.

Mae'r pwysau yn cynyddu am gadoediad wedi digwyddiad y tu allan i Ddinas Gaza ddydd Iau lle bu farw o leiaf 112 o bobl.

Wrth siarad mewn digwyddiad yn Alabama ddydd Sul, dywedodd Ms Harris: "Mae'r hyn rydym ni'n ei weld yn Gaza bob dydd yn dorcalonnus. Rydym ni wedi gweld adroddiadau o deuluoedd yn bwyta dail neu fwyd anifeiliaid, menywod yn rhoi genedigaeth i fabanod â diffyg maeth a phlant yn marw.

"Fel dwi eisoes wedi ei ddweud sawl gwaith, mae gormod o Balesteiniaid diniwed wedi cael eu lladd."

Mae disgwyl i Ms Harris gynnal trafodaethau yn Washington ddydd Llun gyda Benny Gantz, aelod dylanwadol o gabinet rhyfel Israel, i drafod y posibilrwydd o gadoediad.

Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas mae o leiaf 30,000 o bobl, gan gynnwys 21,000 o blant a menywod, wedi cael eu lladd ers i'r rhyfel ddechrau ar 7 Hydref y llynedd.

Mae tua 7,000 o bobl yn parhau ar goll a 71,700 wedi cael eu hanafu.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.