Newyddion S4C

Euro 2020: Cefnogwyr Denmarc yn cael teithio i Amsterdam 

22/06/2021
cefnogwyr Denmarc

Bydd cefnogwyr Denmarc yn cael teithio i Amsterdam ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru nos Sadwrn.

Fe fydd yn newyddion siomedig i gefnogwyr Cymru, a gafodd wybod ddydd Llun na fydden nhw'n cael mynediad i'r Iseldiroedd. 

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth yr Iseldioredd wedi dweud wrth Newyddion S4C na fydd modd i gefnogwyr Cymru deithio i wylio'r gêm gan fod gwaharddiad teithio mewn grym i deithwyr o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Wrth ymateb i'r datblygiadau, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad yw'r cyhoeddiad yn "newid dim byd" i gefnogwyr Cymru ar hyn o bryd.

Yn ôl Gweinidog Materion Tramor Denmarc, Erik Brogger, mae hi’n “dechnegol bosib” i gefnogwyr Denmarc fynychu’r ddinas ar gyfer rownd yr 16 olaf Euro 2020. 

Mae hyn ar yr amod fod cefnogwyr yn treulio llai na 12 awr yn yr Iseldiroedd.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun, dywedodd Eluned Morgan AS fod heddlu’r Iseldiroedd wedi dweud na fydd cefnogwyr o Gymru yn cael eu gadael i mewn i’r wlad. 

Nid yw Denmarc a’r Deyrnas Unedig ar restr o wledydd “saff” yr Iseldiroedd. 

Mae’r awdurdodau yno yn nodi fod y gwledydd sydd ddim ar y rhestr honno yn cael eu hystyried fel “ardaloedd risg uchel”. 

'Deall y siom'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Iseldiroedd wrth Newyddion S4C: "Yn anffodus, mae gwaharddiad mynediad ar gyfer pobl sydd eisiau cyrraedd yr Iseldiroedd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd/ardal Schengen.

"Oherwydd nad yw Cymru, fel gweddill y DU, yn aelod o'r UE nag ardal Schengen, mae'r gwaharddiad mynediad hefyd yn berthnasol i Gymry.

"Oni bai fod pobl yn gymwys am un o'r categorïau eithrio, ni fydd cefnogwyr yn gallu cyrraedd yr Iseldiroedd.  Nid oes eithriad i gefnogwyr fel y cyfryw.

"Rydym yn deall yn iawn y siom fydd hyn yn ei achosi, ond, mae'r feirws yn ein gadael heb ddewis ond atal cyflwyniad (amrywiolion newydd o) corona".

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i lobio Llywodraeth yr Iseldiroedd a UEFA ar y mater.

Dywedodd Mr RT Davies: "Os mae Llywodraeth yr Iseldiroedd yn caniatáu i gefnogwyr Denmarc gyrraedd Amsterdam am y gêm 16 olaf ddydd Sadwrn, dylai cynnig o'r fath gael ei ymestyn i  gefnogwyr Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nid yw eu cyngor ar deithio dramor i gefnogi Cymru yn Euro 2020 wedi newid. 

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Nid yw ein cyngor wedi newid ac mae’n parhau i fod i gefnogi’r tîm o gartref. Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu teithio i wlad Ewropeaidd wirio'r gofynion teithio a'r cyfyngiadau sydd mewn lle ar gyfer cael mynediad i'r genedl honno."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.