Siopau llyfrau annibynnol: 'Teimlo'n bositif am y dyfodol'
“Mae’n torri fy nghalon i weld siopau yn cau, ond mae ‘na rwydwaith o siopau allan yna sydd yn dal i gynnig gwasanaeth i gwsmeriaid."
Mae Eirian James, perchennog y siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, Gwynedd, wedi bod yn gwerthu llyfrau ar Stryd y Plas am dros 20 mlynedd.
Wythnos ar ôl cyhoeddi bod un o siopau llyfrau amlycaf Cymru, Siop y Pethe yn Aberystwyth, yn cau ei drysau, mae'n amlwg bod y diwydiant yn wynebu cyfnod heriol.
Ond mae gobaith hefyd ymysg y newyddion drwg meddai Ms James.
“Dwi’n drist iawn i glywed bod siopau llyfrau yn cau, ond dwi’n meddwl bod 'na heriau gwahanol i wahanol bobl a gwahanol siopau," meddai.
“Diolch byth, ar hyn o bryd, mae popeth yn dal i ffynnu yma yng Nghaernarfon.”
Yn ôl y Gymdeithas Lyfrau, mae’r nifer o siopau llyfrau annibynnol yn y DU ac Iwerddon ar ei huchaf mewn degawd.
Yn achos Palas Print, dywedodd Ms James bod canolbwyntio ar y farchnad leol yn hollbwysig i'w llwyddiant hyd yma.
“O’r cychwyn, ‘da ni 'di bod yn canolbwyntio ar y farchnad leol. ‘Da ni’n darparu dewis eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg, gyda’r ffocws ar anghenion pobl leol," meddai.
“Wrth gwrs, mae ymwelwyr hefyd yn dod i’r siop, ond dwi’n credu os ydy siop yn ddeniadol i bobl leol, yna bydd hi’n ddeniadol i ymwelwyr.”
Ac yn wahanol i nifer o siopau, mae Ms James yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar werthu llyfrau.
“Siop lyfrau ydyn ni, a dwi ddim yn ymddiheuro am beidio â gwerthu pethau eraill.
"Mae hynna’n iawn yng Nghaernarfon, gan fod 'na fwrlwm llenyddol yma.
"Ond dydy o ddim yn rhywbeth sy’n gweithio yn rhywle arall o bosib."
‘Gweld heriau fel cyfleoedd’
Er bod Ms James yn gwerthu llyfrau'n unig, dywedodd bod yn rhaid i siopau feddwl yn greadigol am beth maen nhw’n ei gynnig i gwsmeriaid.
“Ers i ni agor yn 2002, ‘da ni’n ymwybodol iawn bod y dyddiau lle mae siop yn gallu gosod ei stondin a disgwyl i bobl ddod wedi hen fynd.
“Mae’n rhaid i ni gynnig rhywbeth mwy na jest lle mae rhywun yn gallu dod i brynu."
Fel rhan o’r ateb, mae Palas Print yn cynnal digwyddiadau o bob math i ddenu pobl i’r siop.
“‘Da ni wedi cynnal dwnim faint o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â llyfrau, sy’n ymwneud â darllen, sy’n ymwneud â llenyddiaeth," meddai Ms James.
Yn ystod y pandemig, fodd bynnag, roedd yn rhaid cau'r drysau am y tro a gwerthu llyfrau ar-lein yn unig.
Tra'r oedd hynny'n heriol, daeth yr her fwyaf yn y cyfnod i ddilyn pan roedd siopau’r stryd fawr yn ailagor meddai Ms James.
“Roedd pobl wedi mynd allan o’r arfer o jest dod am dro - dod am dro i’r dref, neu i’r siop.
“Roedd yn rhaid atgoffa pobl bod dod i’r dref yn fwy na jest picio i brynu llyfr. Dwi ddim yn dweud bod o ddim yn hynna, ond bod o’n gallu bod yn fwy."
Mae’r pandemig yn sicr wedi bod yn gyfnod anodd i siopau annibynnol, ac i rai mae’r argyfwng costau byw wedi rhwbio halen yn y briw.
Yng Nghaerfyrddin, mae Siop Y Pentan wedi bod yn gwerthu llyfrau a nwyddau Cymreig am dros hanner canrif.
Yn 2022 fe gafodd y busnes gyfle i agor siop dros dro yn Llanelli gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Ond dwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r perchennog Brieg Dafydd wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau'r siop yn Llanelli.
“Dydy’r galw jest ddim yna yn Llanelli’n anffodus - a hynny’n gyffredinol, nid ond gyda’r llyfrau," meddai.
“Yng Nghaerfyrddin, ar y llaw arall, mae’r siop yn gwneud yn grêt. Mae cymuned Cymraeg lot cryfach yma."
Er bod rhai siopau llyfrau Cymraeg yn cau, mae'n pwysleisio nad ydyn nhw o reidrwydd yn cau oherwydd diffyg busnes.
“Rwy’n credu bod dwy siop wedi cau yn ddiweddar oherwydd eu bod nhw’n ymddeol a does neb yna i gymryd drosodd y busnes," meddai Brieg Dafydd.
“Mae’r galw yn bendant dal yna ar gyfer llyfrau. Yn enwedig efo rhieni yn mynd i’r siop i brynu llyfrau i’w plant - maen nhw’n meddwl ei fod yn bwysig iddynt ddal llyfr yn lle sgrolio ar iPad neu fynd ar YouTube.
“Mae ‘na bedair siop llyfrau yng Nghaerfyrddin. Mae mwy o siopau llyfrau yma na siopau dillad - fase chi ddim wedi dweud hynna 15 mlynedd yn ôl.”
Dywedodd Mererid Boswell, Pennaeth Busnes a Chyllid Cyngor Llyfrau Cymru, bod cael mynediad at siopau llyfrau'n "bwysig".
"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod ni'n dal i drio pethau newydd a gwthio’r ffiniau, achos fe ddylai pob ardal o Gymru gael mynediad at siopau llyfrau.
"Mae llythrennedd yn hynod o bwysig o ran addysg, ac mae cael parhad o ran plant yn darllen yn mynd i fod yn bwysig o ran ein cyrhaeddiad addysgiadol ni."
Ychwanegodd bod cael ysgolion a llyfrgelloedd i barhau i brynu trwy'r siopau llyfrau yn bwysig hefyd ar adeg pan mae yna doriadau mawr mewn cynghorau sir.
"'Da ni'n gweld lot o her i’r cyllidebau penodol hynny," meddai.
‘Rhaid i'r cyhoedd ein cefnogi’
Er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae Brieg Dafydd yn teimlo’n “bositif” am y dyfodol.
“Dwi’n teimlo'n eithaf positif rili. Yn amlwg, mae’r flwyddyn neu ddwy nesa’n mynd i fod yn anodd, ond dwi’n gweld pethau’n gwella.
“Mae pobl yn mwynhau dod mas i siopau a chael sgwrs. Mae’r elfen gymunedol yna’n bwysig i bobl, a dwi’n credu bydd o’n parhau i fod yn bwysig. Mae siopau llyfrau’n gyffredinol yn bwysig i unrhyw gymdeithas.”
Dyna pam mae Eirian James yn galw ar berchnogion siopau i gydweithio, a'r cyhoedd i'w cefnogi.
“Fel siop lyfrau, dw i ddim yn meddwl bod o’n bosib i unrhyw siop fodoli mewn vacuum... Mae’n rhaid cael rhwydwaith o siopau ar hyd a lled Cymru," meddai.
“Dwi’n gwybod bod ‘na heriau gwahanol yn wynebu gwahanol lefydd, ond dwi’n ffyddiog bod y dyfodol yn gallu bod yn llewyrchus i siopau a siopau llyfrau.
“Ar ddiwedd y dydd, mae i lawr i’r cyhoedd - os ydy pobl yn cefnogi siopau ar y stryd fawr, neu’n prynu gan siopau annibynnol ar lein ac yn mynd i ddigwyddiadau, yna mi ‘neith y siopau yma ffynnu."