Cyhoeddi tîm y Llewod ar gyfer gêm gyfeillgar Japan

22/06/2021
Alun Wyn Jones
Alun Wyn Jones

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm cyntaf y Llewod yn eu gêm yn erbyn Siapan ar drothwy'r daith i Dde Affrica dros yr haf. 

Fe fydd y tîm yn wynebu Japan yn Stadiwm Murrayfield, Caeredin ddydd Sadwrn, 26 Mehefin. 

Alun Wyn Jones fydd yn eu harwain fel capten, gyda chwe Chymro arall wedi eu henwi ymhlith y tîm.

Fe fydd Liam Williams, Josh Adams, Dan Biggar, Ken Owens yn cychwyn y gêm, gydag Wyn Jones a Taulupe Faletau ar y fainc. 

Bydd modd i 16,500 o gefnogwyr wylio'r gêm yng Nghaeredin. 

Y Garfan 

Liam Williams, Josh Adams, Robbie Henshaw, Bundee Aki, Duhan van der Merwe, Dan Biggar, Conor Murray, Rory Sutherland, Ken Owens, Zander Henderson, Alun Wyn Jones (Capten), Tadhg Beirne, Hamish Watson, Jack Conan

Eilyddion 

Jamie George, Wyn Jones, Tadhg Furlong, Courtney Lawes, Taulupe Faletau, Ali Price, Owen Farrell, Anthony Watson

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.