Newyddion S4C

'Binge' fwyta: Cyflwr cyffredin sydd angen 'rhagor o sylw'

Newyddion S4C 01/03/2024

'Binge' fwyta: Cyflwr cyffredin sydd angen 'rhagor o sylw'

Mae un o’r cyflyrau bwyta mwyaf cyffredin yn un sydd ddim yn cael digon o sylw, yn ôl rhai arbennigwyr.

Ers y pandemig, mae elusennau sy’n helpu pobl ag anhwylderau bwyta yn dweud fod galwadau gan bobol sy’n poeni am 'Glwth-fwyta' – neu binge-eating – ar gynnydd.

Glwth-fwyta yw pan mae unigolyn yn cael pyliau o fwyta llawer iawn o fwyd mewn cyfnod byr a methu stopio.

Yn ôl y maethegydd Angharad Griffiths, sydd wedi profi’r cyflwr ei hun, mae glwth fwyta yn broblem sydd yn effeithio ar “nifer fawr” o bobl.

A hithau’n wythnos codi ymwybyddiaeth anhwylderau bwyta, mae hi’n dweud bod angen rhagor o gefnogaeth ar bobl i fynd i’r afael â’r cyflwr “cudd” yma.

“Dwi’n meddwl mae’n effeithio lot mwy o bobl na ‘da ni’n meddwl," meddai. 

“Ma’ binge eating ‘di dod yn uncontrollable urge to eat a large amount of food in one sitting. Mae gallu bod yn unrhyw seis, dynion, merched mae’n effeithio. 

“Ac yn achosion rili difrifol, mae’r binjo yn gallu digwydd bob dydd i rai pobl. 

“Mae’n rili complex a dio ddim yr un peth i bawb."

'Mwynhau helpu'

Mae Angharad wedi bod yn byw â chyflyrau bwyta ers ei harddegau, a nawr mae hi’n rhannu ei phrofiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

O ran ei phrofiad personol, mae Angharad yn dweud fod pethau wedi dod yn fwy amlwg ar ôl iddi roi’r gorau i yfed alcohol.

Wythnos yma, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun i wella gofal anhwylderau bwyta yng Nghymru, wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc o dan 25 oed. 

Mae Angharad yn gobeithio – drwy rannu ei phrofiadau hi - y bydd eraill yn sylwi nad oes rhaid dioddef yn dawel.

“Dwi heb binjo nawr ers – mae’n dod i tua 10 mis ers i fi gal total uncontrollable binge lle trial byta popeth yn y

“A nawr fi’n rili mwynhau helpu menywod eraill trwy hynna,” meddai.

“Ma rhaid i chi cal help gan rywun sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl. Pan dwi’n siarad amdano fe… Ma’ pobl yn cysylltu ‘da fi’n gweud diolch. 

“Dyna be’ sy’n bwysig am codi ymwybyddiaeth ydy bo’ chi ddim ben eich hunain.”

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael eich effeithio gan y stori hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.