'Dim cymuned ar ôl' os yn dymchwel Ysgol Godre'r Graig

01/03/2024

'Dim cymuned ar ôl' os yn dymchwel Ysgol Godre'r Graig

Miloedd o rubanau yn gorchuddio gatiau'r ysgol. Pob un yn cynrychioli pob diwrnod ers i'r ysgol gau ond fory, galle'r safle hwn edrych yn wahanol iawn gyda'r gwaith dymchwel i fod i ddechrau.

Yn ôl y rhai sy'n byw yn agos, nid dyma'r ateb.

"Maen nhw'n gweud o achos y mynydd bod problem gyda'r tip lan ar y mynydd, ond mae'r tip 'na wedi bod yna oddi ar i fi wedi cael fy ngeni.

"Felly, nag yw e wedi symud na dim byd wedi digwydd erioed."

Ar ôl pryderon am risg tirlithriad ar fynydd y tu ôl i'r ysgol fe symudodd y disgyblion i gabannau dros dro bum mlynedd yn ôl. Yno maen nhw wedi bod ers hynny.

Y llynedd, fe wnaeth y Cyngor wrthod cynlluniau dadleuol ar gyfer ysgol enfawr newydd yn yr ardal a fyddai wedi cynnwys cau ysgolion cynradd Godre'r-graig, Alltwen a Llangiwg.

Er eu bod yn hapus bod y cynlluniau yna wedi eu gwrthod mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn warthus, yn ôl rhai rhieni.

"I'm still in disbelief now. When you can look across the road and you've got houses and residents living here with no issues whatsoever, without any eviction notices, but yet you're saying that this school and this building needs to be taken down.

"It's still nonsensical to us now and we're still in shock that we're in this situation today."

Yn ôl y cynghorydd lleol, fydd yna ddim cymuned ar ôl os bydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel.

"Mae cwmwl du uwch ein pennau ni trwy'r amser. Mae fe'n ofnadwy. Y peth yw, tip cerrig yw'r broblem ar bwys yr ysgol, ar y mynydd. Os bydde'r tip ddim 'na, os bydde hwnna'n gallu cael ei symud bydde dim problem.

"Yn amlwg, os y'n nhw'n benderfynol bod ishe ysgol newydd ni'n derbyn hynna ond o ran yr adeilad fan hyn bydde hwn yn wych fel adeilad cymunedol i ni achos mae ishe fe arnom ni.

"'Na'r unig beth sydd gyda ni 'ma."

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod y Cabinet wedi cytuno i ddymchwel yr ysgol ar ôl i bob opsiwn arall gael ei ddiystyru gan gynnwys cael gwared ar y domen.

Ychwanegodd y Cyngor eu bod wedi gofyn am ganiatâd drwy swyddogion addysg i adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Godre'r-graig. Mae'r broses honno'n parhau, medden nhw.

Achub ysgol sy'n galon i'r gymuned ydy'r nod ond i rai sy'n brwydro am hynny, mae'r dyfodol yn ansicr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.