Newyddion S4C

George Galloway yn ennill isetholiad Rochdale

01/03/2024
George Galloway yn Rochdale

Arweinydd Plaid Gweithwyr Prydain, George Galloway sydd wedi ennill isetholiad Rochdale gydag ychydig yn llai nag 40% o’r bleidlais.

Wrth areithio ar ôl ei fuddugoliaeth dywedodd George Galloway bod Keir Starmer wedi “talu’r pris” am safbwynt y Blaid Lafur ar y rhyfel yn Gaza.

Roedd ei fwyafrif o 5,697 o bleidleisiau yn gyfystyr â 39.7% o’r cyfanswm.

Roedd y ganran a bleidleisiodd hefyd yn 39.7%, ychydig yn uwch na’r ddau isetholiad diweddar yn Wellingborough a Kingswood.

Fe ddaeth dyn busnes lleol David Tully, a oedd yn sefyll yn ymgeisydd annibynnol, yn ail cyfforddus gyda 6,560 o bleidleisiau.

Gorffennodd y Ceidwadwyr yn drydydd pell, tra bod yr ymgeisydd yr oedd Llafur wedi ei wrthod cyn i’r ymgyrch ddod i ben wedi dod yn bedwerydd.

Ymddiheurodd Llafur i bobl Rochdale am beidio â chynnig ymgeisydd, gan honni bod Galloway "wedi ennill oherwydd nad oedd Llafur yn sefyll."

Roedden nhw wedi dewis peidio â chefnogi Azhar Ali wedi i recordiau ddod i’r amlwg ohono yn honni fod Israel yn ymwybodol o flaen llaw o ymosodiadau 7 Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth eu bod nhw’n “hynod o bryderus” am fuddugoliaeth George Galloway.

“Mae ganddo hanes ofnadwy o geisio denu ymateb gan y gymuned Iddewig,” medden nhw.

Y canlyniad yn llawn

Azhar Ali (wedi ei restru yn ymgeisydd Llafur) - 2,402

Mark Coleman (Annibynnol) - 455

Simon Danczuk (Reform UK) - 1,968

Iain Donaldson (Democratiaid Rhyddfrydol) - 2,164

Paul Ellison (Ceidwadwyr) - 3,731

George Galloway (Plaid Gweithwyr Prydain) - 12,335

Michael Howarth (Annibynnol) - 246

William Howarth (Annibynnol) - 523

Guy Otten (Gwyrddion) - 436

Ravin Rodent Subortna (Monster Raving Loony Party) - 209

David Anthony Tully (Annibynnol) - 6,638

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.