Cyhoeddi fideo cerddoriaeth newydd y band Eden yn ystod egwyl Cân i Gymru
Bydd fideo ar gyfer sengl newydd y band adnabyddus, Eden, i’w gweld am y tro cyntaf ar S4C ar noson Dydd Gŵyl Ddewi.
Mi fydd ‘Siwgr’ yn cael ei ddarlledu yn ystod egwyl Cân i Gymru nos Wener, a bydd y sengl ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar bob platfform wedi i’r rhaglen orffen toc wedi 22:15.
Dyma’r ail drac i gael ei ryddhau yn ddiweddar gan Eden, a wnaeth ffurfio’n wreiddiol gyda’r aelodau Non Parry, Emma Walford a Rachael Solomon yn 1996, yn dilyn y sengl ‘Caredig’, a gafodd ei ryddhau ym mis Ionawr.
Ac ers ail-ffurfio i berfformio yn 2016, mae’r band bellach yn edrych ymlaen at gyhoeddi eu cân mwyaf diweddar – a hynny yn ystod “un o uchafbwyntiau cerddorol yng Nghymru,” meddai’r cantores Emma Walford.
“Mae rhyddhau sengl wastad yn rywbeth cyffrous - a pa ffordd well i ddangos y fideo nag yn ystod egwyl Cân i Gymru?," meddai.
'Cyffrous'
Cafodd y fideo ar gyfer ‘Siwgr’ ei gynhyrchu gan dîm Lŵp, platfform cerddoriaeth S4C sy’n dathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymru.
“’Da ni mor gyffrous i gael rhannu fideo i’n sengl newydd ni,” meddai Non Parry.
“Mae platfform Lŵp yn un pwysig iawn o ran cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru, ac wnaethon ni neidio ar y cyfle i gael gwneud fideo unwaith eto!”
Mae’r gân ‘Siwgr’ yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Côsh a wedi’i ysgrifennu gan Yws Gwynedd, Ifan Siôn Davies o Sŵnami, a Rich James Roberts fuodd ei gynhyrchu hefyd.
Dywedodd Rachael Solomon: “Diolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi ni ar hyd y daith. Mae hi bron yn 30 mlynedd ers i ni ffurfio, ac mae yna lot o bethau cyffrous i ddod yn 2024.”