‘Nonsens’ ariannu ffermio yng Nghymru ar sail poblogaeth nid nifer y ffermydd
‘Nonsens’ ariannu ffermio yng Nghymru ar sail poblogaeth nid nifer y ffermydd
Mae undeb amaethyddol wedi dweud bod penderfyniad Llywodraeth y DU i ariannu ffermio yng Nghymru ar sail poblogaeth yn hytrach na nifer y ffermydd yn “nonsens”.
Yn y gorffennol roedd arian yn cael ei ddosbarthu ar draws gwledydd y DU yn seiliedig ar feini prawf gan gynnwys maint, nifer a natur ffermydd.
Roedd hynny’n golygu bod tua 9% o gyllideb amaethyddol y DU yn dod i Gymru.
Ond fe benderfynodd y Trysorlys ym mis Hydref i ddyrannu'r arian ar sail Fformiwla Barnett, sydd yn rhoi cyfran i Lywodraeth Cymru o wariant Llywodraeth y DU ar sail poblogaeth.
O ganlyniad mae disgwyl i Gymru dderbyn tua 5% o gyllideb amaethyddol y DU.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn cynnal ymchwiliad ar y pwnc ar hyn o bryd a dydd Llun yw’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno tystiolaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael y setliad ariannol orau erioed o’r gyllideb a bod ganddyn nhw ben rhyddid i wario’r arian hwnnw fel y mynnent, gan gynnwys ar ffermio.
Ond wrth siarad ar raglen Sunday Supplement, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb ei fod yn sefyllfa “difrifol iawn”.
Roedden nhw’n lobio'r llywodraeth “yn galed iawn” er mwyn cynnal y system ariannu ar sail angen, meddai.
“Mae gan Gymru nifer uwch o ffermydd y pen nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“O ganlyniad, o dan hen system yr Undeb Ewropeaidd, do, fe gawson ni tua 9.2% o’r holl arian cap a ddaeth i’r DU.
“Nawr fe fyddwn ni’n cael tua 5.2% ac mae’n nonsens, a dweud y gwir, achos holl bwynt y system flaenorol oedd gwneud yn siŵr bod y cyllid yn mynd i ble roedd y ffermydd.
“A’r hyn mae hyn yn ei wneud yn y bôn yw dweud y bydd y cyllid yn seiliedig ar boblogaeth Cymru yn hytrach na realiti’r ffaith bod gan Gymru lawer mwy o ffermydd y pen na Lloegr.
“Ac mae’n destun pryder mawr, oherwydd os ewch chi drwy lawer o gefn gwlad Cymru, mae ffermio yn gwbl hanfodol i’r economi wledig.
“Mae gennym ni ffermio a thwristiaeth mewn sawl rhan o Gymru. A ydyn ni wir yn dweud ein bod ni'n mynd i ddiweddu mewn sefyllfa lle mae'r Gymru wledig, ac economi'r Gymru wledig yn syml yn mynd i fod yn economi dwristiaeth dymhorol?
“Dw i ddim yn meddwl mai dyna le rydyn ni eisiau mynd, ond dyma’r pryder gwirioneddol sydd gyda ni ar hyn o bryd.”