Newyddion S4C

Dyn wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ

Y ty

Mae dyn wedi’i ddarganfod yn farw yn dilyn ffrwydrad nwy mewn tŷ yn Swydd Nottingham.

Roedd "digwyddiad o bwys" wedi’i ddatgan a phobl wedi symud o’u tai yn dilyn ffrwydrad mewn cartref yn Worksop nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Swydd Nottingham brynhawn Sul fod corff dyn yn ei 50au wedi ei ddarganfod yn ddiweddarach yn y difrod.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Nottingham eu bod wedi derbyn adroddiadau am y digwyddiad yn John Street am tua 19.39 nos Sadwrn.

Fe gadarnhaodd y gwasanaeth ddydd Sul bod y ffrwydrad o ganlyniad i nwy.

Mae’r heddlu wedi gofyn i bobl gadw draw o’r ardal wrth iddyn nhw barhau gyda'r chwilio.

Dywedodd y llu: “Mae’r adeilad sy’n gysylltiedig â’r ffrwydrad hwn wedi’i ddifrodi’n sylweddol. Bydd peirianwyr strwythurol yn asesu’r sefyllfa.”

Fe gadarnhaodd Heddlu Swydd Nottingham fod yr eiddo teras wedi’i “ddinistrio’n rhannol” a bod cartrefi cyfagos hefyd wedi’u difrodi.

Agorwyd canolfan gymunedol gerllaw fel man diogel i drigolion.

Dywedodd y Prif Arolygydd Neil Humphris o Heddlu Swydd Nottingham: “Mae sawl eiddo wedi cael eu gwacáu wrth i ni weithio gyda’n partneriaid i ymateb i’r digwyddiad hwn a deall sut y digwyddodd."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.