Newyddion S4C

Cyngor yn cefnu ar X oherwydd ‘camwybodaeth a safbwyntiau eithafol’

pobl ar eu ffons

Mae un o gynghorau Cymru yn dweud eu bod nhw wedi penderfynu cefnu ar gyfrwng cymdeithasol X oherwydd “camdriniaeth, camwybodaeth a safbwyntiau eithafol”.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg bod y penderfyniad yn adlewyrchiad o “werthoedd” y cyngor.

Nid nhw yw’r sefydliad Cymreig cyntaf i benderfynu gwneud hynny, wedi i Heddlu Gogledd Cymru adael y llwyfan y llynedd.

Fe wnaeth y biliwnydd Elon Musk, sy’n berchennog ar gwmnïau Tesla a SpaceX, brynu Twitter ym mis Hydref 2022 a’i droi yn X.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Lis Burnett: “Mae hwn yn benderfyniad sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae platfform X wedi dod yn gyfystyr â chamdriniaeth, camwybodaeth, a safbwyntiau eithafol.”

Ond dywedodd y cynghorydd Ceidwadol Rhys Thomas ei fod yn anghytuno gyda’r penderfyniad i adael X.

Fe wnaeth gyhuddo'r cyngor o geisio osgoi sgriwtini a dywedodd bod nifer o drigolion y Fro yn defnyddio X fel ffynhonnell gwybodaeth.

“Yn lle ymfalchïo mewn dangos pa mor rhinweddol ydyn nhw, dylai’r Cyngor gymryd cyfrifoldeb a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ar draws Bro Morgannwg,” meddai.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Bro Morgannwg fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn faint o bobl sy’n gweld eu cyfri X yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

 “Mae hyn oherwydd bod niferoedd cynyddol o gyfrifon segur, yn ogystal â newidiadau i'r algorithm sy'n gyrru'r cynnwys at ddefnyddwyr,” medden nhw.

“Er gwaethaf bod â 29,000 o ddilynwyr ar y platfform, mae llawer o’r cyfrifon hyn bellach yn segur.

“Mae llai na 10% o’r bobl oedd yn gweld ein negeseuon dwy flynedd yn ôl yn eu gweld nhw erbyn hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.