Mwy na 30 o bobl wedi marw mewn ymosodiad yn Wcráin
Mae o leiaf 34 o bobl, gan gynnwys dau o blant, wedi marw mewn ymosodiad gan Rwsia ar ddinas yn Wcráin.
Dywedodd gwasanaeth brys gwladwriaethol Wcráin fod 117 o bobl eraill, gan gynnwys 15 o blant, wedi eu hanafu yn yr ymosodiad ar ddinas Sumy yng ngogledd ddwyrain y wlad.
Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi condemnio’r ymosodiad fel un “erchyll” ar “stryd gyffredin”.
Dywedodd mai dim ond “pobl ddieflig” fyddai’n gallu ymddwyn fel hyn.
Ychwanegodd: “Bydd Rwsia yn parhau i lusgo’r rhyfel hwn yn ei flaen heb bwysau cryf. Ym Moscow maent yn argyhoeddedig y gallant ddal i ladd heb gael eu cosbi.
"Mae streiciau Rwsia yn haeddu dim byd ond condemniad. Rhaid bod pwysau ar Rwsia i ddod â'r rhyfel i ben a gwarantu diogelwch i bobl."
Llun: Gwasanaeth brys gwladwriaethol Wcráin.