
Pwy oedd Dewi Sant mewn gwirionedd? 'Dyn o gig a gwaed heb amheuaeth'
A hithau’n Dydd Gŵyl Dewi, pwy yn union oedd nawddsant Cymru a pham ein bod yn dathlu’r diwrnod cenedlaethol yma?
“Heb amheuaeth, dyn o gig a gwaed” oedd Dewi Sant, meddai un arbenigwr yn ei hanes.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gerald Morgan, sef awdur cyfrol Ar Drywydd Dewi Sant am hanes y dyn ei hun: “Mi allwn ni gymryd rhai pethau yn ganiataol – mi oedd o’n ddyn oedd yn byw bywyd Cristnogol, oedd yn offeiriad, yn athro ac yn fynach hefyd.”
Ond gyda sawl chwedl ynghlwm â’r arwr, mae ‘na gwestiynau sydd yn dal i fodoli am nawddsant Cymru hyd heddiw ac mae Gerald Morgan wedi treulio blynydoedd yn gwahanu'r hanes pendant a'r mytholeg sydd wedi tyfu o'i amgylch.
“Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y ganwyd e,” esboniodd yr hanesydd.
“Ond mae’n rhywle tua diwedd y chweched ganrif; 590 falle, 580 – rhywbryd fel ‘na yn neud synnwyr.
“O ran dathlu diwrnod y Sant; roedd diwrnod marw’r Sant yn ddiwrnod mawr ac yn rhywbeth oedd yn cael ei gofio.
“Dwi’n credu felly mai’r 1af o Fawrth, pa bynnag blwyddyn oedd hi, oedd diwrnod marw Dewi.
“O fan 'na ymlaen mi gafodd enw arbennig a chof arbennig amdano fo.”

Chwedlau
Ond mae dod o hyd i’r gwirionedd y tu ôl i’r holl chwedlau yn dasg heriol, a hynny oherwydd prinder adnoddau, meddai’r awdur.
“Un o drasiedïau mwya’ o ran be ddigwyddodd iddo fo yng Nghymru a Lloegr oedd bod yr holl gelf oedd yn perthyn i’r cyfnod – 99% ohono fe wedi diflannu.
“Yr holl gerfluniau, cymaint o lawysgrifau – gymaint ohono fe wedi mynd i’r tanau Protestannaidd a wnaeth dinistrio'r delweddau mor drwyadl trwy’r wlad.
"Gallwch chi weld Dewi, cwlt Dewi, yn llawer mwy byw yn Llydaw nac yn y wlad yma o ran y canol oesoedd.
“Cyn y diwygiad Protestannaidd oedd ugeiniau o seintiau os nad cannoedd o seintiau yn cael eu dathlu… Lle’r oedd Dewi yn lwcus oedd, roedd ei ddiwrnod e wedi aros yn ddiwrnod arbennig hyd yn oed ar ôl y diwygiad Protestannaidd.”
Ond does “dim syndod” fod rhai o’r straeon mwyaf adnabyddus wedi aros ar gof a chadw, ychwanegodd Mr Morgan.
“Y chwedl yw ei fod e wedi mynd i Synod eglwysig yn Llanddewi Brefi a’i fod wedi dechrau pregethu ac am fod pobl ddim yn clywed e’n iawn, gan fod gymaint o bobl yno, mi roddwyd lliain ar y llawr ac fe gododd y tir o dano fo.
“Wrth gwrs os ydych chi’n mynd i Llanddewi Brefi mae’r eglwys ar ben domen reit siapus yn union fel mae o wedi digwydd."

‘Arwr’
Ac fel un o ffigyrau mwyaf arwyddocaol hanes Cymreig, mae’r “arwr” yn parhau i ddylanwadu ar gymunedau y tu hwnt i Gymru, meddai Mr Morgan.
“’Dyn ni ddim yn gwybod pryd y daeth yn nawddsant i Gymru ond yn sicr mi ledodd cwlt Dewi dros Gymru - a thu hwnt," meddai.
“Mae ‘na eglwysi i Dewi yn Sir Henffordd, yn Sir Gaerloyw, yng Nghernyw a Dyfnaint, a dwsin a rhagor ohonyn nhw yn Llydaw – ac mae ‘nag eglwysi yn Iwerddon hefyd.
“Ond dim ond yn y 10fed canrif mi enwyd fe fel y math o arwr y dylai fod yn arwain byddin Gymru gydag ymladdwyr yr Alban ac Iwerddon i drio trechu'r brenin Saesneg, Athelstan.
“Ac er ‘odd seintiau eraill fel Beuno a Gwenfrewi yn eglwysi’r gogledd, mae pobl y gogledd wedi derbyn Dewi fel nawddsant Cymru yr un fath â phobl y de.
“Mae bywyd Dewi ar ôl iddo farw yn eithriadol o ddifyr ac mae'n mynd ymlaen hyd heddiw."