
Gwahardd hysbysebion cwmni fodca o Abertawe 'am dargedu pobl ifanc o dan oed'
Mae hysbysebion TikTok a Facebook ar gyfer cwmni fodca o Abertawe wedi cael eu gwahardd am dargedu pobl ifanc o dan oed, yn ôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu.
Fe wnaeth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu dderbyn cwyn fod un o hysbysebion Au Vodka wedi ei thargedu yn anaddas ar gyfer pobl o dan 18 oed.
Roedd dwy hysbyseb arall yn cynnwys rhywun oedd yn ymddangos i fod o dan 25 oed yn ôl yr awdurdod.
Fe wnaeth post TikTok gan y dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol Lucina Strafford ym mis Mehefin ei dangos hi yn llenwi peiriant gwerthu a oedd yn cynnwys logo Au Vodka gyda chaniau y cwmni, cyn iddi gymryd sip o un ohonynt.
Dywedodd Au Vodka, a gafodd ei sefydlu gan Charlie Morgan, 29, a Jackson Quinn, 31, o Abertawe, wrth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu fod Strafford yn ddylanwadwr adnabyddus o'r gyfres deledu Love Island, ac ei bod hi dros 25 oed.

Fe wnaeth y cwmni hefyd ddarparu tystiolaeth o ddemograffeg ei chynulleidfa ar TikTok, a oedd yn eu barn nhw’n dangos bod ei holl ddilynwyr yn 18 oed neu’n hŷn.
Fe wnaethon nhw hefyd ddatgan fod yr hysbyseb ar gyfer cynulleidfa o oedolion yn gyffredinol, ac nad oedd yn cynnwys unrhyw olygfeydd a fyddai yn debygol o apelio at bobl o dan 18 oed.
Dywedodd Au Vodka fod yr ail hysbyseb wedi ei thargedu o ran lleoliad i'w chyflwyno i gynulleidfaoedd yn UDA.
Roedd yr hysbyseb yma yn dangos fideo o'r dylanwadwr Kai Cenat yn agor bocs yn cynnwys potel Au Vodka cyn ei hyfed.

Er ei bod yn bosib fod cyfran fechan o unigolion yn y DU wedi gweld y post, mae'r cwmni yn dweud fod y sefyllfaoedd hynny'n brin ac roeddent y tu allan i'w strategaeth dargedu.
Fe wnaethon nhw gydnabod fod Cenat yn 23 oed, ond gan ddatgan fod hynny yn ufuddhau gyda chyfreithiau hysbysebion yn UDA.
Fe wnaeth Au Vodka gydnabod fod yr unigolyn a oedd yn ymddangos yn y drydedd hysbyseb yn 24 oed ar yr adeg yr ymddangosodd yr hysbyseb ac felly ei fod yn torri rheoliadau hysbysebu.

Roedd y fideo yma o Facebook a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill yn dangos dynes yn dweud "bod angen i chi drio hwn" cyn iddi afael mewn potel Au Vodka a'i dangos i'r camera.
O dan reolau hysbyseb yn y DU, ni ddylid cyfeirio hysbysebion ar gyfer diodydd sy'n cynnwys alcohol na hysbysebion sy’n cynnwys neu’n cyfeirio at ddiodydd sy'n cynnwys alcohol at bobl o dan 18 oed.
Ni ddylid defnyddio unrhyw gyfryngau i hysbysebu diodydd sy'n cynnwys alcohol os yw mwy na 25% o’r gynulleidfa o dan 18 oed.
Yn ogystal, ni ddylai pobl sy'n yfed neu yn chwarae rhan sylweddol mewn hysbysebion ar gyfer diodydd sy'n cynnwys alcohol fod o dan 25 oed.
Ychwanegodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ei fod yn disgwyl gweld tystiolaeth fod Au Vodka wedi cymryd camau priodol i leihau'r tebygolrwydd y byddai plant neu bobl ifanc yn gweld eu hysbysebion.
Dywedodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu: "Yn absenoldeb targedu penodol a data demograffig perthnasol yn cael eu darparu, ac o ystyried y ffordd yr oedd defnyddwyr yn ymgysylltu â TikTok, daethom i’r casgliad nad oedd digon o ofal wedi ei gymryd i sicrhau nad oedd hysbyseb (a) wedi’i chyfeirio at bobl o dan 18 oed. Felly roedd yn torri’r cod."
Wrth gyfeirio at yr ail a'r drydedd hysbyseb, daeth yr Awdurdod i'r casgliad fod oed Cenat (23) ac oed y ddynes (24) yn golygu fod yr hysbysebion yma hefyd yn torri'r rheolau.
Ychwanegodd yr Awdurdod: "Ni ddylai'r hysbysebion ymddangos eto yn eu ffurf bresennol.
"Fe wnaethom ddweud wrth Au Vodka Ltd bod angen iddynt sicrhau fod eu hysbysebion yn y dyfodol yn cael eu targedu yn addas a ddim yn cael eu cyfeirio at bobl o dan 18 oed."