Caerdydd: Ymgyrchwyr yn 'croesawu' penderfyniad i gyfyngu ar hysbysebion bwyd sothach
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu penderfyniad Cyngor Caerdydd i gyfyngu ar hysbysebion bwyd sothach a chynnyrch eraill mewn mannau cyhoeddus, ond maent yn dweud y gallai'r polisi newydd fynd ymhellach.
Cyngor Caerdydd ydy'r ail gyngor yng Nghymru i gyfyngu ar nifer yr hysbysebion bwyd sydd yn uchel mewn siwgr, braster ac halen sy'n ymddangos ar strydoedd, ochrau ffordd a safleoedd bws. Maent yn dilyn Cyngor Bro Morgannwg.
Bydd y cyngor hefyd yn gwahardd hysbysebu cerbydau sy'n cael eu pweru gan danwydd ffosil, benthyciadau diwrnod cyflog, e-sigaréts, a fêps.
Mae Badvertising, yr ymgyrch i roi'r gorau i hysbysebion sy'n hybu cynnyrch a gwasanaethau o'r fath, wedi croesawu penderfyniad y cyngor.
Dywedodd Robbie Gillett o'r ymgyrch: "Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd i gyfyngu ar yr hysbysebion sy'n hybu bwyd sothach a cherbydau sy'n ddibynnol ar danwydd ffossil yn cael ei groesawu, ac yn pwysleisio ymrwymiad y cyngor i wella iechyd cyhoeddus a mynd i'r afael â llygredd aer."
Fe fydd cwmnïau sy'n gwerthu bwyd sy'n uchel mewn siwgr, braster a halen yn gallu parhau i hysbysebu eu cwmni ar yr amod eu bod yn hybu bwyd iachus amgen.
Mae Badvertising wedi galw ar Gyngor Caerdydd i fynd gam ymhellach gyda'i bolisi a gwahardd yr holl hysbysebion gan gwmnïau sy'n "llygru yn sylweddol".
Fe fydd polisi newydd y cyngor hefyd yn dod â chyflwyno rheolau mwy llym ar hysbysebu alcohol ac hysbysebu crefyddol.
Fe fydd cwmnïau yn cael eu hannog i hybu opsiynau sydd ddim yn cynnwys alcohol.
O ran crefydd, mae'r polisi newydd yn nodi: "Ni ddylai hysbysebu achosi tramgwydd difrifol nac eang, yn enwedig ar sail sensitif fel crefydd neu gred.
"Fel dinas aml-ddiwylliedig, mae'r cyngor yn dymuno croesawu amrywiaeth drwy annog elusennau a grwpiau crefyddol i ddefnyddio ein cyfleoedd hysbysebu lle mae'n briodol."