Disgyblion yn Ysgol Gyfun Penglais i hunan-ynysu

Mae grŵp o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Penglais yn Aberystwyth wedi derbyn cyfarwyddyd i hunan-ynysu.
Daeth cadarnhad gan Gyngor Sir Ceredigion ddydd Llun fod un disgybl wedi dangos prawf positif o Covid-19.
Mae grŵp o ddisgyblion o flwyddyn naw, yn ogystal â rhai disgyblion sy'n teithio ar yr un bws â'r achos positif, wedi eu hanfon adref o ganlyniad.
Fe fydd y disgyblion yn aros adref am 10 diwrnod, ac yn cael eu haddysgu o bell yn y cyfamser.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor fod swyddogion yn delio gyda'r mater a bod mesurau diogelwch yn eu lle i warchod disgyblion a gweithwyr yr ysgol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google Maps