Newyddion S4C

Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar gylchfan yng Nghaerfyrddin

29/02/2024
Cylchfan

Mae dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad ar un o gylchfannau Caerfyrddin yn ystod oriau mân fore Iau.

Dywedodd yr heddlu bod car wedi taro yn erbyn goleuadau traffig ar yr A48 ar gylchfan Pensarn yn y dref tua 2.50.

Bu farw’r dyn yn yr ysbyty.

Bu’r A48 rhwng Nant-y-caws a Chaerfyrddin ar gau am rai oriau gan achosi “traffig sylweddol” ar y ffyrdd o amgylch, ond mae bellach wedi ail agor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.