Newyddion S4C

Marwolaethau Covid-19 Cymru ar eu hisaf ers Medi 2020

22/06/2021
Coronafeirws

Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru ar ei lefel isaf ers Medi 2020.

Mae diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos mai un farwolaeth o ganlyniad i'r feirws oedd yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 11 Mehefin.

Nid yw nifer y marwolaethau o ganlyniad i'r feirws wedi bod mor isel â hynny ers 11 Medi 2020.

Daw'r newyddion wrth i'r broses o lacio'r cyfyngiadau fod ar stop yng Nghymru wrth i'r llywodraeth aros am fwy o dystiolaeth ynghylch amrywiolyn Delta.

Fe rybuddiodd Diprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones, ddydd Llun am effaith amrywiolyn Delta.

Mae 579 achos o'r amrywiolyn bellach wedi eu cadarnhau yng Nghymru ac mae 12 o bobl wedi eu trosglwyddo i'r ysbyty wedi iddynt gael eu heintio gan yr amrywiolyn hwn.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd y gyfradd o achosion Covid-19 ar draws Cymru rhwng 10 a 16 Mehefin yn 29.0 i bob 100k o'r boblogaeth.

Mae'r gyfradd o achosion am y cyfnod ar ei huchaf yn Sir Ddinbych (77.3) ac ar ei hisaf ym Merthyr Tudful (6.6).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.