
'Pwysig i'r ynys': Canfod trysor o'r Oes Haearn a'r Oes Rufeinig ar Ynys Môn
Mae casgliad o eitemau o’r Oes Haearn a’r Oes Rufeinig a gafodd eu canfod ar Ynys Môn wedi ei ddatgan yn drysor.
Cafodd casgliad o 16 o arteffactau crefyddol eu darganfod mewn cae yn Llanfair-Mathafarn-Eithaf, ar 4 Mawrth 2020, gan Ian Porter, wrth iddo ddefnyddio datgelydd metal.
Ymhlith yr eitemau roedd sawl darn o gerbyd rhyfel sydd yn dyddio i’r ganrif gyntaf Oed Crist, un eitem yn portreadu pen maharen, a phedwar disg sydd yn cael eu hadnabod fel phalarae.

Roedd hefyd darn ingot o gopr Rhufeinig yn pwyso 20.5kg, sy’n debygol o fod wedi dod o fwyngloddiau Mynydd Parys, yn ogystal â darnau o arian a brôtsh Rhufeinig.
Cafodd y casgliad eu hadrodd i Gynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), sydd wedi ei leoli yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.
Fe wnaeth curadwyr arbenigol yn Amgueddfa Cymru adrodd y canfyddiad o drysor, cyn i’r uwch grwner ar gyfer gogledd orllewin Cymru, Ms Kate Robertson, ddatgan y canfyddiad fel trysor ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Porter ei fod wedi dod o hyd i’r eitemau yn agos i ffynnon mewn ardal gorsiog o gae, sydd yn profi llifogydd yn aml.
“Roeddwn i mor gyffrous o ganfod yr eitemau hyn,” meddai.
“I feddwl bod y person diwethaf i’w cyffwrdd yn fyw tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n dangos peth o hanes yr ynys.”
‘Pwysig i’r ynys’
Mae Oriel Môn wedi dangos diddordeb yn yr arteffactau er mwyn eu hychwanegu i’w casgliad, wedi iddo gael ei brisio yn annibynnol drwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “Mae’r grŵp hwn o arteffactau yn deillio o sawl diwylliant gwahanol, ac yn cynnwys addurniadau o Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid.
“Mae’n ddarganfyddiad newydd pwysig i’r ynys. Cafodd ei osod yn ystod neu yn fuan ar ôl i’r ynys gael ei goresgyn gan y fyddin Rufeinig.
“Ysgrifennodd yr awdur Rhufeinig Tacitus gofnod byw o’r cyfnod dramatig hwn, a’r cyfarfyddiad cyntaf rhwng milwyr Rhufain a Derwyddon Môn.
“Mae’r grŵp hwn o roddion yn dangos pwysigrwydd llefydd gwlyb, fel safle sanctaidd Llyn Cerrig Bach, ar gyfer seremonïau crefyddol mewn oes o ryfel a newid.
“Mae’r pen maharen – addurn ar gyfer cerbyd neu ffon mae’n debyg – wedi’i addurno yn yr arddull Geltaidd hwyr. Mae’n ddarlun manwl a digri o’r faharen, ac yn siŵr o ddod yn un o atyniadau poblogaidd Oriel Môn!”
Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeilad Oriel Môn: “Ers darganfod arteffactau o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach yn ystod y 1940au, mae Ynys Môn wedi ei gysylltu’n gryf â’r cyfnod pwysig hwn yn ein hanes.
“Bydd y darganfyddiad newydd a chyffrous hwn yn gwella ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth, ac mae Oriel Môn yn falch o weithio gydag Amgueddfa Cymru ac yn awyddus i’w gaffael ar gyfer ein casgliad.
“Mae cryn arwyddocâd archeolegol i’r eitemau eu hunain a’r ffordd y cawsant eu gadael, ac mae iddynt botensial mawr o ran arddangos a dehongli.
“Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer addysg ac ymgysylltu. Mae eitemau o’r cyfnod hwn o ddiddordeb i’n hymwelwyr, felly mae hyn yn newyddion gwych i bawb.”
Lluniau: Amgueddfa Cymru