Noson ar Faes y Brifwyl i gofio Geraint Jarman oedd yn 'fwy 'na dim ond cerddor'

Geraint Jarman / Marged Tudur

Mae'n bwysig ein bod yn cofio Geraint Jarman fel 'mwy 'na dim ond cerddor', meddai bardd sy'n arbenigo yn ei waith.

Fel rhan o'i chwrs PHD yn y brifysgol, fe astudiodd y bardd Marged Tudur waith Geraint Jarman, yn arbennig ei gerddi sydd wedi eu cyhoeddi mewn tair cyfrol.

Ac fe fydd criw o gerddorion, cyfeillion a phobl oedd yn edmygwyr o waith Geraint Jarman yn dod at ei gilydd nos Fercher ar Faes y Brifwyl i gofio un o arwyr diwylliant Cymraeg yr 20fed ganrif.

Yn ôl Marged Tudur, sy'n un o drefnwyr y digwyddiad, fe fydd llawn gymaint o sylw yn cael ei roi i waith barddoniaeth Jarman, yn ogystal â'r caneuon eiconig, mae gymaint yn gyfarwydd â nhw. 

Image
Jarman

Fe eglurodd Marged fod teulu Geraint wedi bod yn rhan fawr o drefnu'r dathliad, ac y bydd aelodau o'r teulu yn bresennol ar gyfer yr achlysur.

"Efo sêl bendith teulu Geraint, fe fydd pawb sy’n cymryd rhan hefo cysylltiad agos hefo Geraint. 

"Mi fydd y cerddorion yn gwneud covers o ganeuon Geraint, ac mi fydd pobol yn darllen ei gerddi ar y noson. 

"Da ni i gyd yn gyfarwydd efo’i ganeuon o, ond mi fydd yn braf cael rhoi’r llwyfan i’w gerddi fo, ella di pobol ddim mor gyfarwydd efo rheiny, a bod Geraint yn fwy 'na dim ond cerddor a chynhyrchydd teledu.

Image
Jarman

"Ar y noson fe fyddwn yn plethu’r gerddoriaeth efo’r farddoniaeth ac fe fyddwn yn edrych ar y cysylltiad rhwng y cerddi a rhai o'r caneuon. 

"Beth sydd yn ddifyr o edrych ar y corff o'i waith o, yn farddoniaeth a cherddoriaeth ydy bod yna rhyw gysylltiadau bach, ac mae hynny yn cynnig ryw olau newydd ar waith Geraint o rhan cysylltiadau thematig, a bod Caerdydd yn rhywbeth mor galonog, bron yn gymeriad ynddo fo ei hun, a bod gen ti arddull eithaf tebyg hefyd a bod yr weledigaeth mae o yn rhoi yn ei ganeuon o, hefyd i’w weld yn eu gerddi o.

“Fyswn i yn dychmygu fydd hi’n noson reit emosiynol.

“Y gobaith ydy hefyd y bydd yna ryw deimlad eitha dyrchafol iddo fo hefyd. Er enghraifft fe fyddwn yn cloi'r noson efo Ethiopia newydd. Efo honna oedd Geraint yn cloi bob gig oedd yn ei wneud. Ac yn y gân yna mae na ryw osgogiad i ni weithredu a'n bod ni yn gallu dal ati a cofio a cario geiriau Geraint efo ni llu.”

Image
Jarman

Rywbeth nad ydi pawb yn ei gofio ydi fod Geraint Jarman wedi ei eni yn Sir Ddinbych, cyn symud i Gaerdydd pan yn blentyn. 

“Mae’n braf gallu mynd i’r gogledd ddwyrain i neud noson fel ma. Yn amlwg mae’r Eisteddfod fath â ryw ffair ddiwylliannol Cymraeg felly yn amlwg odd rhywun isio talu teyrnged i Geraint ond hefyd dathlu mewn ffordd y cyfraniad anferthol oedd o di neud i ddiwylliant Cymraeg.”

Eglurodd Marged fod gan Jarman gymaint o gysylltiadau efo’r Eisteddfod, roedd yn aelod o’r Orsedd ac ei fod wedi perfformio cymaint o gigs i’r Eisteddfod ar draws dros chwe degawd. 

“Be dwi’n meddwl sydd yn sbesial am Geraint ydy mae o yn rhywun sydd yn golygu rhywbeth i bawb ac mae hynna yn dangos faint oedd ei ddylanwad o mewn ffordd. Er bod na rhei pobl ddim yn nabod o.

"Mae gen bawb ryw stori amdana fo neu rhywbath mae nhw isio ddeud am bod nhw di weld o mewn gig, neu bod nhw di siarad efo fo unwaith neu bod ryw gân ganddo fo di cyffwrdd nhw. Ond ma hynny yn dangos pa mor anferth oedd ei ddylanwad o a'i waddol o ar bobol.

“Dwi'n gobeithio bydd y noson yn mynd yn dda, mae o yn mynd i olygu yn amlwg rhywbeth personol iawn i’r teulu. Pum mis sydd wedi bod ac mae dal yn ddyddiau ofnadwy o gynnar dydy. 

"Ond gobeithio y byddan nhw yn cael ryw gysur o fod ffans Geraint a’i edmygwyr o, a phawb yn dod at ei gilydd i’r Babell Lên nos Fercher i gofio amdana fo.”

Fe fydd y digwyddiad yn y Babell Len ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam nos Fercher am 21:30.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.