Newyddion S4C

Penodi Sioned Wiliam yn brif weithredwr dros dro S4C

29/02/2024
Sioned Wiliam

Mae Bwrdd Unedol S4C wedi penodi Sioned Wiliam fel Prif Weithredwr dros dro.

Daw’r penodiad wedi ymadawiad Sian Doyle o’r sianel ar ôl cael ei diswyddo ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae Sioned Wiliam yn adnabyddus yn y diwydiant fel cyn-Gomisiynydd Comedi BBC Radio 4 a chyn-Bennaeth Comedi ITV.

Cyn hynny bu’n gynhyrchydd rhaglenni gyda chwmnïau teledu Talkback a Hat Trick.

Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o nofelau Cymraeg gan gynnwys Y Gwyliau, Cicio’r Bar, Chwynnu a Dal i Fynd.

Dywedodd Sioned Wiliam Prif Weithredwr dros dro S4C: “Dwi’n hynod ddiolchgar am y cyfle yma i fod yn rhan o stori S4C - sianel sydd wedi bod yn rhan annatod o’m mywyd ers iddo gychwyn - fel gwyliwr, cynhyrchydd, cyflwynydd ac fel mam ddiolchgar.

“Mae arlwy S4C yn arbennig iawn ac mae’r berthynas rhwng y sianel a’r gynulleidfa yn hollbwysig - edrychaf ymlaen at wneud bob dim y medraf i hwyluso hyn.

“Dwi am sicrhau fod S4C yn le da i weithio, lle mae’r staff yn cael eu parchu a’u cefnogi. Mae’n rhaid i bawb sydd yn gysylltiedig a’r sianel fod yn medru ymddiried ynddo gan wybod y bydd yn gweithio er budd y gweithlu, y rhanddeiliaid a’r gynulleidfa.”

Y cefndir

Bydd Sioned Wiliam yn dechrau ar ei gwaith yn rhan amser ym mis Mawrth, cyn ymuno yn llawn amser gyda S4C yn ystod mis Ebrill.

Daw ei phenodiad yn dilyn cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.

Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr.

Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".

Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.

Yn gynharach y llynedd, ym mis Hydref, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys y sianel wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn ddiweddarach tarodd Ms Griffin Williams yn ôl yn erbyn cadeirydd y sianel, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.

Ym mis Ionawr dywedodd Rhodri Williams nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.

'Chwa o awyr iach'

Dywedodd S4C mai prif gyfrifoldeb Sioned Wiliam dros y misoedd nesaf fydd arwain ar Gynllun Gweithredu S4C, sydd wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Unedol, ac sy’n dilyn cyhoeddi Adroddiad Capital Law.

Mae’r cynllun yn nodi rhaglen waith i fynd i'r afael yn llawn â'r materion mae S4C wedi'u hwynebu ers 2022.

Dywedodd S4C mai'r nod yw adfer ymddiriedaeth staff S4C a'r sector creadigol drwy edrych ar arweinyddiaeth, diwylliant, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a llywodraethiant y sefydliad.

Fel rhan o’r cynllun bydd arbenigwyr allanol yn arwain adolygiad o werthoedd y sefydliad, bydd yna adolygiad allanol o effeithiolrwydd llywodraethiant S4C, bydd rheolwyr yn cael hyfforddiant ar arweinyddiaeth a rheoli newid, a bydd y trefniadau cyfathrebu mewnol hefyd yn cael eu cryfhau, medden nhw.

Yn dilyn penodi Sioned Wiliam bydd Geraint Evans yn parhau yn ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys dros dro a bydd Elin Morris yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredu S4C.

Mae disgwyl hefyd y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn apwyntio Cadeirydd dros dro yn fuan i arwain Bwrdd Unedol S4C.

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C: “Edrychaf ymlaen at groesawu Sioned i S4C yn dilyn cyfnod digynsail o anodd i’n gweithlu.

“Daw profiad arweinyddiaeth Sioned yn ogystal â’i chefndir a phrofiad yn y diwydiant â chwa o awyr iach i S4C, a’i blaenoriaeth hi bydd sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn ysbrydoli newid ar draws y sefydliad – er budd ein pobl, y sector creadigol ac wrth gwrs ein cynulleidfaoedd.

“Rwy’n gwybod bod Sioned yn awyddus i fynd i’r afael â’r gwaith o adfer hyder ac ymddiriedaeth yn S4C, gan sicrhau bod S4C unwaith eto yn le hapus i weithio, a phobl yn teimlo eu bod yn gallu bod ar eu gorau, a gwneud eu gorau i S4C a’r iaith Gymraeg.

“Ar ran Cyfarwyddwyr Anweithredol y Bwrdd hoffwn ddiolch i holl staff a Thîm Rheoli S4C am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb dros y misoedd diwethaf, gan wybod y byddant yn rhoi pob cefnogaeth i Sioned wireddu’r Cynllun Gweithredu ac adfer ffydd yn S4C.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.