Dim ardal gefnogwyr Euro 2020 yng Nghaerdydd yn sgil Covid-19

Ni fydd ardal i gefnogwyr yn cael ei hagor yng Nghaerdydd ar gyfer gem nesaf Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2020, yn ôl ITV Cymru.
Fe fydd y crysau cochion yn wynebu Denmarc ddydd Sadwrn er mwyn ceisio ennill lle yn y rownd gogynderfynol.
Ddydd Llun, cafodd cefnogwyr Cymru wybod na fyddai modd iddyn nhw gyrraedd yr Iseldiroedd ar gyfer y gêm yn Amsterdam.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried cefnogi ceisiadau gan gynghorau unigol i gynnal ardaloedd i gefnogwyr.
Mae cyngor y brifddinas wedi cadarnhau na fydd ardal i gefnogwyr yno ddydd Sadwrn oherwydd pryderon am amrywiolyn Delta a'r cynnydd mewn achosion o'r feirws.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans