Cyfyngiadau ar brotestio yn torri cyfreithiau hawliau dynol, medd ASau

Mae'r cyfyngiadau ar brotestio yn y bil heddlua newydd dadleuol yn torri cyfreithiau hawliau dynol ac yn cynyddu'r risg o brotestwyr heddychlon yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwneud yn droseddwyr, yn ôl rhybudd gan ASau ac arglwyddi.
Maen nhw'n dweud fod y bil heddlu, trosedd, dedfrydu a llysoedd, sydd wedi arwain at nifer o brotestiadau, yn cynnwys elfennau diangen ac anghyfartal, yn ôl The Guardian.
Mae cyd bwyllgor y senedd ar hawliau dynol yn dweud y dylid cael gwared ar gymalau gan gynnwys rhai sy'n galluogi cyfyngiadau i gael eu gorfodi ar brotestiadau oherwydd y sŵn maen nhw'n eu creu.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod yr argymhellion wedi eu cefnogi gan yr heddlu, "yn unol â deddfwriaeth hawliau dynol ac nad ydynt yn effeithio'n negyddol ar yr hawl i brotestio".
Darllenwch y stori'n llawn yma.