Triniaethau canser Cymru ‘yn llusgo y tu ôl i wledydd eraill’
Mae ymchwil newydd yn awgrymu fod y defnydd o gemotherapi a radiotherapi yng Nghymru ar ei hôl hi i wledydd eraill, a bod pobl yn aros yn rhy hir am driniaeth.
Mae dwy astudiaeth newydd sydd wedi eu cefnogi gan Cancer Research UK, ac a gyhoeddwyd yn y Lancet Oncology, yn dangos bod pobl sydd yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn derbyn triniaethau chemotherapi a radiotherapi yn llai aml na mewn gwledydd tebyg.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys mwy na 780,000 o bobl a gafodd ddiagnosis rhwng 2012 a 2017, ac yn cynnwys mathau gwahanol o ganser (oesoffagaidd, y stumog, y colon, y coluddyn, canser yr afu, y pancreas, yr ysgyfaint a’r ofari).
Mae Cancer Research UK wedi galw ar Lywodraeth Cymru i symud “ymhellach a chyflymach” i gadw i fyny â gwledydd tebyg a gwella canlyniadau i gleifion.
Yn ôl yr ymchwil, cleifion yng Nghymru oedd yn wynebu'r amseroedd aros hiraf am driniaeth.
Ar gyfer radiotherapi, roedden nhw'n disgwyl 81 diwrnod ar gyfartaledd o'i gymharu â 79 diwrnod yn yr Alban, 63 diwrnod yn Lloegr a dim ond 44 yn Norwy.
Yn ôl yr ymchwil, cleifion yng Nghymru oedd yn wynebu'r amseroedd aros hiraf am driniaeth.
Ar gyfer radiotherapi, roedden nhw'n disgwyl 81 diwrnod ar gyfartaledd o'i gymharu â 79 diwrnod yn yr Alban, 63 diwrnod yn Lloegr a dim ond 44 yn Norwy.
Roedd yr amseroedd aros am gemotherapi yng Nghymru hefyd yn hir - 58 diwrnod ar gyfartaledd, o'i gymharu â 48 diwrnod yn Lloegr, 43 diwrnod yn Awstralia a dim ond 39 diwrnod yn Norwy. Fodd bynnag, roedd cleifion yn Yr Alban yn disgwyl am 65 diwrnod.
Yng Nghymru, cafodd 31.1% o gleifion eu trin â chemotherapi, dim ond ychydig y tu ôl i gyfartaledd y DU o 31.5%.
'Cyflym'
Dywedodd Simon Scheeres, rheolwr materion cyhoeddus Cancer Research UK yng Nghymru bod gwledydd tebyg i Gymru "yn gweld canlyniadau canser gwell".
“O ran trin canser, gall amseru fod yn hollbwysig. Mae curo canser yn golygu ei guro i bawb a dylai pob claf gael mynediad at driniaeth amserol ni waeth ble maent yn byw neu pa ganser sydd ganddynt.
“Rhaid i ni fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol drwy ymchwilio i’r hyn sy’n ysgogi amrywiadau o fewn gwasanaethau canser a darganfod sut maent yn effeithio ar gleifion yng Nghymru.”
Mae Mr Scheeres wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad “yn gyflym” er mwyn helpu cleifion canser nawr ac yn y dyfodol.
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae mynediad at driniaeth canser yn flaenoriaeth ac mae timau clinigol a rheolwyr ar draws y GIG yng Nghymru yn gweithio’n galed i wella perfformiad canser.
“Rydym wedi gweld y cynnydd uchaf erioed mewn atgyfeiriadau ar gyfer diagnosis canser, o 50%, yn y tair blynedd diwethaf.
“Yn 2023, fe wnaeth y nifer uchaf erioed o gleifion ddechrau triniaeth ar gyfer canser (mwy na 21,700) a chafodd y nifer uchaf erioed o bobl (165,000) wybod nad oes ganddyn nhw ganser.
“Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella diagnosis a mynediad at ofal o ansawdd uchel, ac rydym hefyd wedi lansio rhaglen genedlaethol i gefnogi adferiad mewn amseroedd aros canser gyda chefnogaeth o £2 filiwn y flwyddyn am dair blynedd.”