![Dean](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/MicrosoftTeams-image%20%283%29.png?itok=9xSvVngK)
'Mwy na chlwb rygbi': Clybiau lawr gwlad yn rhoi cefnogaeth i bobl ifanc
'Mwy na chlwb rygbi': Clybiau lawr gwlad yn rhoi cefnogaeth i bobl ifanc
Mae clybiau rygbi ar lawr gwlad yn gorfod gwneud mwy na hyfforddi yn unig, meddai hyfforddwr clwb rygbi yn y de.
Mae Clwb Rygbi Pendyrus yn ganolog i’r gymuned leol ac yn hwb i bobl ifanc.
Ac wrth geisio mynd i afael â "thlodi yn yr ardal", mae'r clwb wedi dechrau cynnig mwy o gefnogaeth oddi ar y cae.
Yn ystod gwyliau’r hanner tymor yn ddiweddar, fe wnaeth y clwb ddarparu brecwast a chinio i dros 150 o chwaraewyr ieuenctid.
Dywedodd Dean Evans, Ysgrifennydd Clwb Rygbi Pendyrus mai'r nod yw bod "yn fwy na chlwb rygbi yn unig".
![Dean](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/MicrosoftTeams-image%20%283%29.png?itok=9xSvVngK)
“Y nod hirdymor yw i ddatblygu o fod yn glwb rygbi sydd yn gweithredu o fewn y gymuned," meddai.
“Mae e amdano edrych ar dlodi yn yr ardal a sut allen ni help plant, pe bai hynny trwy eu bwydo, rhoi cit iddyn nhw a chymryd unrhyw rwystrau i ffwrdd i’w galluogi i chwarae chwaraeon mewn safle diogel."
Un sy’n ynghlwm a’r cynllun yn y Rhondda yw cyn-asgellwr Lloegr a’r Llewod, Jason Robinson, sy’n darparu esgidiau i'r rheini sydd eu hangen.
“O’n i’n blentyn oedd byth wedi cael y trainers cywir, neu yn gwisgo’r bŵts rhatach, a bob tro yn stryglo i gael y crys iawn.
![Cyn asgellwr Lloegr a'r Llewod, Jason Robinson](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/MicrosoftTeams-image%20%2825%29.png?itok=B_eGXjMl)
“Dwi ddim yn meddwl y dylai hynny fod yn rhwystr ond mae e dal yn, ni mewn cyfnod anodd."
I Ethan, chwaraewr ifanc gyda'r clwb, mae chwarae gyda'i ffrindiau yn ffordd o fwynhau ac wedi bod o fudd i'w iechyd meddwl.
“Ti’n cael bois sy’n dod i Treorchy, Ferndale, Tonyrefail, Porth, Cymer, o gwmpas y Rhondda, mae’n dda i jyst gweld bechgyn dod lan i un a jyst bondio yn well.
“Dwi’n hoffi chwarae rygbi oherwydd ti’n hoffi bod gyda’r bechgyn, mae’n helpu fi gyda fy mental health oherwydd gyd o’r bechgyn, mae dim un o nhw gyda lives yn hawdd.
![Ethan](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/MicrosoftTeams-image%20%284%29.jpeg?itok=GbidGg2o)
“Ond pryd ma nhw’n dod lan fan hyn ti’n gallu gweld fel gwenu ac maen nhw’n mwynhau e.”
Rygbi yw popeth i Ethan ac mae ei freuddwyd yn glir. Ond y flaenoriaeth i’r chwaraewyr yma yw cyd-chwarae a mwynhau’r gêm maen nhw’n ei garu
“Dwi’n hopio i fynd lan a chwarae am Cymru, hopefully, or jyst unrhyw high level semi-pro, as long bo fi’n chwarae rygbi mae hynny’n be’ sy’n gwneud fi’n hapus."