Donald Trump gam yn nes at gael ei enwebu'n ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr
Mae Donald Trump gam yn nes at gael ei enwebu'n ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr yn ras Arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Enillodd y cyn-arlywydd y rhag-etholiad yn nhalaith De Carolina gyda mantais enfawr dros Nikki Haley, ei brif wrthwynebydd yn y blaid Weriniaethol .
Fe lwyddodd i ennill yr enwebiad gyda mantais o 20 pwynt dros Ms Haley, i hawlio ei bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol.
Er y golled drom, fe wnaeth Ms Haley addo y byddai'n aros yn y ras.
Wrth iddo ddathlu wedi'r canlyniad, ni soniodd Mr Trump am Ms Haley. Yn hytrach fe osododd ei fryd ar yr etholiad cyffredinol ym mis Tachwedd.
“Rydyn ni’n mynd i edrych ar Joe Biden yn syth yn ei lygaid,” meddai wrth gefnogwyr.
“Mae'n dinistrio ein gwlad - ac rydyn ni'n mynd i ddweud 'ewch allan Joe, rydych chi wedi colli' eich swydd.”
Canmolodd Mr Trump "undod" ei blaid ar ôl canlyniad ddydd Sadwrn, gan ddweud: "Ni fu erioed ysbryd fel hyn. Nid wyf erioed wedi gweld y Blaid Weriniaethol mor unedig."
Mae ymgyrch Trump wedi rhagweld y bydd yn casglu digon o rhag-etholiadau i ennill yr enwebiad yn ffurfiol o fewn y mis nesaf.